Nod Myfyrwyr y Dyfodol yw darparu marchnata rhagorol, rhaglenni ysgolion a cholegau, allgymorth, a derbyniadau i ysgogi’r gwaith o recriwtio myfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Mae’r adran AD yn darparu swyddogaeth AD bwrpasol ar gyfer y Brifysgol, a chytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.
Yn cynnwys Gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PDC, Gwasanaethau Llyfrgell, Datblygiad Myfyrwyr a Sgiliau Astudio, mae Gwasanaethau Dysgu yn cydweithio i wireddu profiad a darpariaeth dysgu agored, cynhwysol, o safon uchel i fyfyrwyr, graddedigion a staff.
Mae Gwasanaethau TG yn cefnogi swyddogaethau sydd eu hangen ar gydweithwyr a myfyrwyr, gan gynnwys mynediad e-bost a WiFi, offer a meddalwedd cyfrifiadurol, cymorth TG a mwy.
Mae’r tîm yn cefnogi gweithgareddau cynllunio PDC, yn goruchwylio perfformiad ein Ffactorau Llwyddiant Critigol, Perfformiad mewn Tablau Cynghrair, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a Rhaglen Trawsnewid PDC 2030. Maen nhw hefyd yn gartref i Ymestyn yn Ehangach, sy’n darparu rhaglen Ymestyn yn Ehangach de ddwyrain Cymru fel ei brif sefydliad, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae RISe yn cefnogi cydweithwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar effaith ymchwil; cyllid a grantiau; ac Ysgoloriaeth Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth Prifysgol De Cymru (KESS).
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr, yn cynnwys yr Ardal Gynghori, y Tîm Cymorth Digidol, y Tîm Anabledd, y Tîm Cyngor Iechyd Meddwl, y Tîm Cwnsela, y Tîm Cyngor Dilyniant, y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, a Thîm Iechyd PDC, ac yn cefnogi myfyrwyr drwy gydol eu taith PDC.
Mae’r Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn darparu cymorth ar gyfer llywodraethu a rheoli Prifysgol De Cymru, yn ogystal â chydgysylltu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gweithredu a monitro Safonau’r Gymraeg.
Mae RISe yn cefnogi cydweithwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar effaith ymchwil; cyllid a grantiau; moeseg ac uniondeb ymchwil; datblygiad a diwylliant ymchwilwyr; a chyflwyniad Prifysgol De Cymru i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).