Ymunodd Gill Hemus â PDC fel Prif Swyddog Pobl a Gweithredu Dros Dro ym mis Mai 2026.
Mae gan Gill gyfoeth o brofiad o arwain pobl a gweithio ar lefel bwrdd yn y sector addysg uwch a'r GIG.
Mae ganddi bron i 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector addysg uwch, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol/Prif Swyddog Pobl ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, Prifysgol Bangor, a Royal Holloway, Prifysgol Llundain, ac mewn rôl dros dro ym Mhrifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Brunel Llundain.