Alicia Smith

Fy nghwrs yn fy ysbrydoli i ddechrau busnes

Busnes a Rheolaeth
Graddedig Busnes Alicia Smith gyda'i phartner Mathew Hunt

Ers pum mlynedd erbyn hyn, mae'r brifysgol wedi’i henwi bob blwyddyn fel yr un orau yng Nghymru o ran busnesau newydd gan raddedigion, felly roeddwn i'n gwybod y byddai'n lle gwych i hogi fy sgiliau entrepreneuraidd.


Troi fy angerdd dros goffi yn swydd ddelfrydol

Rwy'n 22 oed ac mae gen i radd BA (Anrhydedd) dosbarth cyntaf mewn Busnes a Rheoli. Y mis diwethaf, gwnes i a fy mhartner, Mathew, lansio Cuple Coffee – fan goffi chwaethus o hen ffasiwn sy'n gweini mathau arbenigol o goffi a danteithion cartref melys – yng Nghlwb Bechgyn a Merched Penydarren ym Merthyr Tudful.

Ges i fy ysbrydoli i ddechrau fy musnes fy hun diolch i fodiwl ar entrepreneuriaeth, a wnaeth ein hannog i droi syniadau cychwynnol am fusnesau yn realiti.

Roedd astudio yn PDC yn benderfyniad hawdd i fi – ro’n i eisiau bod yn agos at adref pan o’n i yn y brifysgol, ac mae gan PDC un o'r ysgolion busnes gorau yng Nghymru. Hefyd, ers pum mlynedd erbyn hyn, mae'r brifysgol wedi’i henwi bob blwyddyn fel yr un orau yng Nghymru o ran busnesau newydd gan raddedigion, felly roeddwn i'n gwybod y byddai'n lle gwych i hogi fy sgiliau entrepreneuraidd.

Rwyf wastad wedi ymddiddori yn y byd busnes, ac ro’n i'n gwybod y byddai angen gradd arnaf i allu symud yn fy mlaen yn y maes. Felly cyn gynted ag y cyrhaeddodd fy mhen-blwydd yn 19, penderfynais fynd amdani. Yn ystod fy ail flwyddyn, gofynnodd ein  darlithydd Anthony Thomas i ni ddatblygu syniad busnes gyda chyllideb ddamcaniaethol o £1,000, a dyma sbarduno fy nghreadigrwydd a dechrau cynllunio  Cuple Coffee.

Fe wnes i gymryd rhan hefyd yn Den Syniadau Disglair PDC  – cynllun cyllido sy'n dyfarnu hyd at £1,000 i fyfyrwyr a graddedigion i gefnogi eu syniadau busnes neu llawrydd – ac fe roddodd hyn gyfle i fi gyflwyno cais ar lafar am gymorth busnes am y tro cyntaf erioed.

Dewch o hyd i'ch cwrs

FE WNES I GYMRYD RHAN HEFYD YN DEN SYNIADAU DISGLAIR PDC – CYNLLUN CYLLIDO SY'N DYFARNU HYD AT £1,000 I FYFYRWYR A GRADDEDIGION I GEFNOGI EU SYNIADAU BUSNES NEU LLAWRYDD.

Alicia Smith

Myfyriwr Busnes a Rheolaeth

Troi syniad yn realiti

Ar ôl blynyddoedd o wneud ein coffi ein hunain a phobi popeth o fara banana i croissants a phicau ar y maen, penderfynais i a Mathew fynd amdani a throi Cuple Coffee yn swydd lawn amser i ni’n dau – a’r peth cyntaf i’w wneud oedd dod o hyd i'r fan berffaith.

Fe wnaethon ni ddod o hyd i fan Peugeot hardd o 1978 a gyrru i fyny i Peterborough i'w gasglu. Gan iddo gael ei fewnforio o Ffrainc yn wreiddiol, ry’ch chi’n ei yrru ar yr ochr chwith- ac roedd y daith hir adref yn ddiddorol a dweud y lleiaf! Ond ry’n ni wrth ein bodd – mae mor unigryw.

Aeth tad Mathew ati i adnewyddu'r tu mewn i greu lle ar gyfer ein peiriant coffi a'n hoffer arbenigol, ac roedd Cuple Coffee yn barod i wasanaethu’r cyhoedd ar ddechrau mis Gorffennaf.

Mae Mathew yn chwarae pêl-droed yng nghanolfan Clwb Bechgyn a Merched Penydarren, ac yn garedig iawn fe wnaethon nhw gytuno i’n cais i gael gweithio o’u maes parcio, sy'n gyfleus iawn i lawer o fusnesau lleol ac ar lwybr poblogaidd gan bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro.

Mae lansio ein brand wedi bod yn brofiad cyffrous iawn, ac mae’n braf gallu cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i bobl ym Merthyr sy’n caru coffi. Byddwn hefyd yn gwerthu mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau eraill dros yr haf, fydd yn gyfle i ni roi cynnig ar gynnyrch newydd a gweld beth sy'n boblogaidd ymhlith ein cwsmeriaid.

Yn sicr, mae ambell foment wedi bod o bendroni ydyn ni wedi gwneud y peth iawn!  Mae ymroi yn llwyr i’r busnes wedi bod yn heriol – ry’n ni'n codi am 4 o’r gloch bob bore i bobi popeth yn ffres, ac wedyn yn mynd adref ganol y prynhawn i baratoi ar gyfer y bore canlynol – ond ry’n ni mor falch o’n hunain am greu Cuple Coffee, ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y dyfodol.

Mae Cuple Coffee ar agor rhwng 7.30am a 3.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 8.30am – 2pm ar ddydd Sul. Dilynwch Cuple Coffee ar y cyfryngau cymdeithasol:

Instagram: @cuplecoffee_
TikTok: Cuple coffee
Facebook: Cuple Coffee

Diddordeb mewn Busnes a Rheolaeth?

Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.