Chidinma Fofah

Meithrin Arbenigedd mewn Caffael Cynaliadwy

Busnes a Rheolaeth
Chidinma sits in front of red backdrop smiling at camera

Roeddwn i angen prifysgol gyda hanes o ragoriaeth academaidd a thiciodd Prifysgol De Cymru’r blwch hwnnw.


Dewis PDC 

Dewisodd Chidinma PDC am ei gradd Ôl-raddedig adnabyddus mewn Caffael, gan fwriadu adeiladu ar ei phrofiad mewn cwmni FMCG o Nigeria. Cynigiodd PDC gymysgedd perffaith o ymarfer a theori. “Roeddwn i angen prifysgol gyda hanes o ragoriaeth academaidd a thiciodd Prifysgol De Cymru’r blwch hwnnw.” 

Roedd ei chwrs yn cynnwys Rheoli Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy ac Egwyddorion a Rheolaeth Caffael, lle canolbwyntiodd ar gaffael cynaliadwy a rheoli contractau a risg. Wrth astudio astudiaethau achos diwydiant byd-eang a defnyddio meddalwedd efelychu Busnes, Edmundo, fe wnaeth wella ei dealltwriaeth o’r diwydiant ehangach, gan roi gwell sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth iddi yn ei maes. 

Er na ddilynodd leoliad mewn diwydiant, manteisiodd Chidinma ar gyfleoedd rhwydweithio yn nigwyddiad 'Procurex Cymru 2022' a symposiwm ar-lein CIPS. Roedd y llwyfannau hyn yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr iddi ar gaffael yn sector cyhoeddus y DU, gan gyfoethogi ei thaith ddysgu. 

Ei chyngor i ddarpar fyfyrwyr yw “Ewch amdani! Mae (ymuno â PDC) yn un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud, ac ni fyddwn yn ei newid am unrhyw beth.” 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Busnes a Rheolaeth?

Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.