Gyrfaoedd Seicolegwyr Newydd a Datblygol
Mae yna lawer o lwybrau gyrfa ym maes seicoleg y tu hwnt i rai o'r gyrfaoedd mwy traddodiadol.
Psychology Plus
Isod mae rhai o'r gyrfaoedd newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg sydd ar gael, ynghyd â gwybodaeth bellach am y cyfleoedd sydd ar gael yn y Brifysgol sydd wedi'u cynllunio i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy a chefnogi eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol.
GYRFAOEDD YN GRYNO
Bydd yr yrfa hon yn cynnwys gweithio gydag unigolion sydd wedi cael rhyw fath o anaf i’r ymennydd neu sy’n dioddef o gyflwr niwropatholegol fel clefyd Alzheimer. Byddai Niwroseicolegwyr Clinigol yn ymwneud ag asesu, trin ac adsefydlu unigolion o'r fath. I arbenigo mewn Niwroseicoleg Glinigol yn gyntaf byddai angen i chi fod yn Seicolegydd Siartredig o fewn y maes Clinigol neu Addysgol.
Mae seicoleg hyfforddi yn golygu gweithio gydag unigolion i wella lles a pherfformiad mewn bywyd personol a pharthau gwaith, wedi'i ategu gan fodelau hyfforddi sydd wedi'u seilio ar ddysgu oedolion a phlant neu ddulliau seicolegol sefydledig. I ddod yn seicolegydd hyfforddi cofrestredig, yn gyntaf rhaid i chi ddod yn Seicolegydd Siartredig BPS a gallu dangos goruchwyliaeth barhaus o'ch ymarfer seicoleg hyfforddi.
Mae'r maes hwn o seicoleg yn ymwneud â sut mae ein hamgylchedd ffisegol yn effeithio ar ein cyflwr seicolegol. Er enghraifft, mae corff o ymchwil yn dangos y gall mannau gwyrdd mewn amgylchedd canol dinas leihau straen. I ddod yn Seicolegydd Amgylcheddol byddai angen cymhwyster ôl-raddedig yn y maes hwn.
Mae'r maes hwn o seicoleg yn cynnwys defnyddio egwyddorion seicolegol i ddeall, rhagfynegi a thrin ymddygiad defnyddwyr. Er enghraifft, pam mae defnyddwyr yn dewis brand penodol o ffa pob dros un arall? I ddechrau gyrfa mewn marchnata neu seicoleg defnyddwyr fel arfer byddai angen i chi gael cymhwyster ôl-raddedig yn y maes hwn.
Gallai gyrfa yn y maes hwn gynnwys gweithio gydag anifeiliaid â phroblemau ymddygiad, gweithio ym maes lles anifeiliaid neu ym maes diogelu bywyd gwyllt. Mae'r yrfa hon yn aml yn croesi'r ffiniau rhwng seicoleg, ymddygiad anifeiliaid a meddygaeth filfeddygol. Byddai astudiaeth ôl-raddedig mewn ymddygiad anifeiliaid neu raglen gysylltiedig, efallai hyd yn oed yn arwain at PhD, yn fan cychwyn da ar gyfer gyrfa o'r fath.