Paratoi i Ddysgu
Dysgwch am yr offer allweddol y byddwch yn eu defnyddio yn ein hamgylchedd dysgu gweithredol a chael gwybod mwy am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i’ch helpu i gael y gorau o’ch cwrs.
Adnoddau
Adnoddau
P’un a ydych yn chwilio am offer dysgu digidol, cymorth astudio personol, neu fynediad at adnoddau hanfodol, rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i wella eich profiad.
UniLearn yw’r term ar gyfer y system integredig a’r offer sy’n cefnogi gweithgareddau dysgu ac addysgu Prifysgol De Cymru drwy dechnoleg.
Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth ac adnoddau sydd wedi'u cynllunio i wella perfformiad academaidd, meithrin hyder ac annibyniaeth dysgwyr, a chefnogi llwyddiant trwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy am oes.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell PDC ar gael yn gorfforol ac ar-lein ac mae gennym lawer o adnoddau i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
Mynediad at Gymorth Ychwanegol
Mae gan y Brifysgol gyfoeth o gymorth ar gael, gan gynnig cyngor ac arweiniad yn ystod eich amser yn y brifysgol ar gyfer amrywiaeth o faterion, o iechyd a lles i gyngor arian a chynnydd.