Mae ein cwrs, a enillodd wobr 'Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn' yng Ngwobrau FinTech Cymru, yn cynnig cyfle unigryw i ragori ym maes deinamig gwyddor data.
Mae byd cymhleth gwyddor fferyllol angen graddedigion sydd nid yn unig â gwybodaeth ragorol ac yn gyfarwydd iawn â labordy, ond sy'n gallu llywio prosesau a fframweithiau'r diwydiant yn hyderus. Dysgwch bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau rôl o fewn cwmnïau fferyllol sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa.
Mae angen graddedigion ar y diwydiant fferyllol sydd â gwybodaeth wyddonol gref, sgiliau labordy ymarferol, a dealltwriaeth glir o brosesau'r diwydiant. Mae'r radd hon yn meithrin eich arbenigedd a'ch gallu i ddatrys problemau, gan roi'r hyder i chi addasu, arloesi a llwyddo mewn amgylchedd byd go iawn sy'n symud yn gyflym.
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Siartredig y Gwyddorau Fforensig, mae'r BSc Gwyddor Fforensig yn eich dysgu sut i gymhwyso ystod o wyddoniaeth uwch i ymchwilio i droseddau. Mae'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu gan ddefnyddio offer o safon y diwydiant yn sbardun i amrywiaeth o yrfaoedd ar draws meysydd gwyddonol.
Mae'r cwrs Gwyddor Fforensig yn cynnig profiad ymarferol o leoliad y drosedd i'r llys. Byddwch yn dysgu technegau allweddol mewn ymchwilio, casglu tystiolaeth, a dadansoddi labordy, gan feithrin yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli canfyddiadau a chyfrannu'n effeithiol mewn senarios fforensig yn y byd go iawn.
Archwiliwch ryfeddodau'r corff dynol, o systemau organ gwahanol i fiocemeg, geneteg a bioleg gellol.
Byddwch yn astudio sut mae clefydau'n datblygu, sut y gellir ymchwilio iddynt, sut mae triniaethau'n gweithio, a sut y gellir ymchwilio i therapïau newydd a'u datblygu i wella bywydau.
Wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr gan Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025, mae’n gradd Cyfrifiadureg BCS achrededig yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn datblygu meddalwedd diogel. Ennill sgiliau ymarferol drwy brosiectau yn y byd go iawn, gan ddatblygu atebion diogel a dibynadwy i broblemau bywyd go iawn.
Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain a'i chreu mewn partneriaeth â diwydiant a myfyrwyr, mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn greadigol ac yn fedrus, ac yn gallu adeiladu'r dyfodol gyda systemau deallus, effeithiol, effeithlon a dibynadwy. Mae'r flwyddyn sylfaen yn darparu ffordd o gael mynediad i'r maes cyffrous hwn i'r rheini sydd efallai'n dychwelyd i astudio, neu sydd angen magu hyder fel arall.
Gwellwch eich sgiliau wrth i ni archwilio byd deinamig gwyddor gyfrifiadurol. O gyffredinoli i ddiogelwch, byddwch yn datgelu’r holl dechnolegau meddalwedd a chaledwedd diweddaraf.
O leoliad y drosedd i'r llys, profwch y broses ymchwilio lawn wrth ddefnyddio cyfleusterau arloesol a thechnolegau labordy uwch i ddadansoddi a dehongli tystiolaeth fforensig i safonau proffesiynol.
Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddorau Gwallt a Thricoleg wedi'i chynllunio'n benodol i ateb y galw byd-eang cynyddol am arbenigedd yn y maes hwn sy'n ehangu'n gyflym.
Mae'r cwrs gradd hwn yn sylfaen berffaith ar gyfer cyrsiau mynediad i raddedigion mewn meddygaeth. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau clinigol ochr yn ochr â gwybodaeth am theori fiofeddygol a pholisïau iechyd.
Mae ein LLB Gradd yn y Gyfraith yn eich paratoi ar gyfer ymarfer cyfreithiol a'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Trwy ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, byddwch yn datrys problemau cyfreithiol go iawn, gan ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r profiad sy'n eich gwneud yn hynod gyflogadwy ac yn barod i daro'r tir fel gweithiwr proffesiynol cyfreithiol iau.
Nid ymwneud â'r gorffennol yn unig mae Hanes yn PDC; mae'n ymwneud â deall sut mae’r gorffennol wedi llunio’r byd sy’n gyfarwydd i ni heddiw a'r safbwyntiau a goleddwn erbyn hyn. Drwy archwilio pwy sy'n creu hanes a chydnabod cyfraniadau amrywiol, byddwch yn dod yn ddinesydd byd-eang yn barod i adael eich ôl ar y byd.
Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi ffynonellau, meddwl yn feirniadol am y gorffennol, a chyfleu eich syniadau'n glir. Gyda dysgu gweithredol, tasgau myfyriol ac asesiadau cymhwysol, byddwch yn ennill sylfaen academaidd gref a sgiliau trosglwyddadwy i symud ymlaen i'r radd Hanes a thu hwnt. Mae'r cwrs hwn yn cefnogi eich twf, chwilfrydedd a pharodrwydd ar gyfer lefel uwch o astudio.
Dysgwch trwy leoliadau yn y gwaith, astudio bob wythnos dan arweiniad, a sesiynau preswyl. Archwiliwch hyfforddi cynhwysol, pynciau rhyngddisgyblaethol, a rôl chwaraeon mewn addysg, iechyd a lles, wrth adeiladu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu, cynllunio, ac ymarfer myfyriol ar gyfer gyrfa o bwys.
Gan ganolbwyntio ar y wybodaeth sydd eu hangen o ran chwaraeon a busnes i ddatblygu gweithwyr proffesiynol ar gyfer y diwydiant chwaraeon, byddwch yn atgyfnerthu eich dysgu ac yn dechrau arbenigo'ch profiad dysgu yn y gwaith yn unol â'ch uchelgeisiau gyrfa.
Y llwybr cyflawni unigryw a phenigamp, a gynhelir ar y cyd â Chynghrair Pêl-droed Lloegr yn y Gymuned (EFLitC), sy’n galluogi myfyrwyr i astudio yn y gweithle.
Bydd integreiddio theori ac ymarfer yn gwella ac yn datblygu eich gallu i fyfyrio ar arfer hyfforddi cyfredol, cynllunio rhaglenni hyfforddi priodol a dadansoddi'n feirniadol y dulliau presennol o hyfforddi perfformiad.