Busnes Rhyngwladol (Atodol)
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau a fydd yn gwella eich galluoedd rheoli, mewn cyd-destun rhyngwladol.
Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niMae'r radd BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol yn canolbwyntio ar y byd cynyddol fyd-eang rydym yn byw ynddo. Bydd cael dealltwriaeth dda o&\r agweddau allweddol ar wneud busnes ar raddfa fyd-eang yn rhoi mantais i chi yn y gweithle heb os.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill HND neu gymhwyster cyfwerth. Mae'r radd hon yn eich galluogi i ennill gradd baglor lawn mewn llai na blwyddyn.
Llwybrau Gyrfa
- Entrepreneur
- Rheolwr busnes
- Ymgynghorydd rheoli
- Rheolwr prosiect
- Swyddog gweithredol cyfrif
Sgiliau a addysgir
- Ymwybyddiaeth busnes
- Sgiliau rhyngbersonol
- Datrys problemau
- Hunanreoli
- Meddylfryd byd-eang
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn cael gwell dealltwriaeth o sut mae masnach ryngwladol yn gweithio ac yn dysgu am y gwahanol faterion sy'n wynebu busnes byd-eang, gan gynnwys sut y gallai hyn effeithio ar y swyddogaethau rheoli busnes traddodiadol fel marchnata, adnoddau dynol a phrynu a chyflenwi.
- Busnes Rhyngwladol
- Strategaeth Fusnes
- Prosiect Ymchwil Busnes
- Rheolaeth Gymhwysol
- Diwylliant a Chyfathrebu Rhyngwladol
- Rheoli Adnoddau Dynol 4.0 a Dyfodol Gwaith
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Cwblhau HND yn llwyddiannus mewn Astudiaethau Busnes neu Fusnes a Chyfrifyddu, Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes, Rheoli Sector Gwasanaeth neu Reoli Manwerthu, neu gymhwyster cyfatebol e.e. Diploma mewn Addysg Uwch neu Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM (Lefel 5).
Gofynion ychwanegol
Gwneir ystyriaeth yn unigol ar gyfer cymwysterau amgen a / neu brofiad perthnasol ar yr amod bod myfyrwyr yn gallu dangos digon o wybodaeth a dealltwriaeth gysylltiedig i'w paratoi ar gyfer astudio lefel 6 mewn disgyblaeth fusnes.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos 240 credyd (neu gyfwerth) a gall polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) y Brifysgol ymddangos yn y penderfyniad i gynnig lle ar y cwrs. Dylid cyfeirio at brofiad, cymwysterau a gwybodaeth berthnasol yn natganiad personol yr Ymgeisydd.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Os yw myfyrwyr eisiau gwneud cais i sefyll arholiadau y tu allan i'r DU ac Iwerddon, mae yna ffi weinyddu 50 pwys y lleoliad. Gellir dod o hyd i fanylion o ddolen y Brifysgol
Cost: £50
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’w gyflwyno gyda sesiynau addysgu byw, cydamserol ar ffurf darlithoedd a gweithdai sy’n seiliedig ar dechnegau dysgu gweithredol, sy’n golygu y bydd y sesiynau hyn yn addysgiadol, yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol. Bydd y cyflwyniad hwn yn cael ei gefnogi gan gyfres o ddeunyddiau asyncronaidd ar amgylchedd dysgu rhithwir a fydd yn cefnogi eich dysgu.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ffurfiol yn cynnwys adroddiadau, traethodau a chyflwyniadau grŵp ac unigol, arholiadau a mwy i asesu canlyniadau dysgu ar draws y modiwlau. Bydd asesiadau mor ddilys â phosibl, gan ddefnyddio fformatio disgyblaeth-benodol lle bo'n berthnasol. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i gael profiad mwy realistig wrth ddod yn gyfarwydd ag offer cyfathrebu eu disgyblaeth.
Pam PDC
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
Enwyd yn y 50 sefydliad gorau yn y DU ar gyfer pŵer ymchwil gan y Times Higher Education
Pam PDC
Ar y brig yng Nghymru
Mae Rheoli Busnes yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)
-
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaethau pellach bymtheg mis ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru.
-
Enwyd yn y 50 sefydliad gorau yn y DU ar gyfer pŵer ymchwil gan y Times Higher Education