Rheoli Busnes (Atodol)
Adeiladwch ar eich cymwysterau presennol ac enillwch radd israddedig mewn llai na blwyddyn gyda'r cwrs Rheoli Busnes atodol hwn.
Sut i wneud cais Gwneud Cais Drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/ba-hons-business-management-top-up.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
N194
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs hwn, ynghyd â'i lwybrau arbenigol, yn darparu addysg fusnes gyfoes ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sy’n eich paratoi â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad lafur sy'n esblygu'n barhaus, a gwella eich galluoedd busnes a rheoli.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu gymhwyster cyfatebol ac sy'n awyddus i ennill gradd baglor lawn mewn busnes a rheoli.
Llwybrau Gyrfa
- Entrepreneur
- Rheolwr busnes
- Ymgynghorydd rheoli
- Rheolwr prosiect
- Swyddog gweithredol cyfrif
Sgiliau a addysgir
- Ymwybyddiaeth busnes
- Sgiliau rhyngbersonol
- Datrys problemau
- Hunanreoli
- Meddylfryd entrepreneuraidd
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sydd wedi'u cynllunio i wella eich sgiliau busnes a rheoli dros ddau dymor o 12 wythnos. Bydd y tymor cyntaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am theori rheoli busnes, a bydd cyfle i chi deilwra eich dysgu i gyd-fynd â'ch nodau gyrfa a'ch diddordebau yn ystod yr ail dymor.
Tymor un
- Rheoli Cymhwysol
- Strategaeth Busnes
- Ymchwil Busnes: Egwyddorion ac Ymarfer
- Gwella Llwyddiant Academaidd
Tymor dau
Yn nhymor dau, byddwch yn cwblhau Prosiect Rheoli Byw ynghyd â dau o’r modiwlau dewisol canlynol:
- Egwyddorion Cyllid Corfforaethol (dewisol)
- Egwyddorion Cyfrifeg (dewisol)
- Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid (dewisol)
- Moeseg Busnes a Chynaliadwyedd (dewisol)
- HRM 4.0 a Dyfodol Gwaith (dewisol)
- Gwerthu Proffesiynol a Datblygu Busnes (dewisol)
- Logisteg a Rheoli Deunyddiau (dewisol)
- Caffael Masnachol (dewisol)
- Arwain Byd-eang Cyfoes (dewisol)
Yn y tymor cyntaf, byddwch yn cwblhau pedwar modiwl craidd a gynlluniwyd i gryfhau eich hyder mewn theori rheoli busnes a sgiliau ymarferol.
Rheoli Cymhwysol
Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gychwyn ar yrfa mewn rheolaeth ganol.
Strategaeth Busnes
Cewch safbwynt cyfannol a strategol o sefydliadau a'u hamgylcheddau. Archwiliwch themâu fel masnachu, arloesi a rheoli trawsddiwylliannol wrth ddysgu sut i ddadansoddi heriau busnes byd-eang.
Ymchwil Busnes: Egwyddorion ac Ymarfer
Adeiladwch sgiliau hanfodol a dysgwch am dechnegau sydd eu hangen i gynnal ymchwiliad go iawn i broblem fusnes.
Gwella Llwyddiant Academaidd
Mae'r modiwl heb gredydau hwn wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau academaidd a busnes ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Yn yr ail dymor, byddwch yn cwblhau Prosiect Rheoli Byw ynghyd â dau fodiwl dewisol.
Prosiect Rheoli Byw (gorfodol)
Datblygwch eich sgiliau rheoli busnes proffesiynol wrth i chi ddefnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu a'i gymhwyso mewn gweithgaredd prosiect byw ochr yn ochr â thiwtor goruchwylio.
Egwyddorion Cyllid Corfforaethol (dewisol)
Datblygwch ymwybyddiaeth feirniadol o theori a thechnegau cyllid corfforaethol.
Egwyddorion Cyfrifeg (dewisol)
Byddwch yn archwilio egwyddorion sylfaenol cyfrifyddu ariannol, adroddiadau ariannol a chyfrifyddu rheoli mewn cyd-destun rheoli busnes.
Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid (dewisol)
Deallwch bwysigrwydd rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid, y materion cyfoes sy'n effeithio ar gwsmeriaid, a datblygwch sgiliau i helpu’r broses o ddadansoddi gofynion gwasanaethau cwsmeriaid.
Moeseg Busnes a Chynaliadwyedd (dewisol)
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o faterion busnes cynaliadwy a sut y gellir eu rheoli, eu hyrwyddo a'u datblygu mewn cyd-destun busnes.
HRM 4.0 a Dyfodol Gwaith (dewisol)
Defnyddiwch eich gwybodaeth bresennol o Adnoddau Dynol wrth ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o faterion cyfredol a newidiadau posibl i'r proffesiwn yn y dyfodol.
Gwerthu Proffesiynol a Datblygu Busnes (dewisol)
Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ym meysydd gwerthu proffesiynol a rheoli gwerthiant, yn ogystal â chael mewnwelediad i feysydd marchnata, arloesi ac ymddygiad prynwyr.
Logisteg a Rheoli Deunyddiau (dewisol)
Archwiliwch dechnegau a strategaethau ar gyfer cynllunio, trefnu a rheoli'r broses logisteg gyffredinol gan gynnwys meysydd ymarferol rhagweld, rheoli rhestrau eiddo a gwasanaethau cwsmeriaid.
Caffael Masnachol (dewisol)
Byddwch yn archwilio'r theori a'r cymhwysiad ymarferol sy'n sail i brosesau sy'n gysylltiedig â ffurfio cytundebau masnachol a pherthnasoedd â sefydliadau allanol.
Arwain Byd-eang Cyfoes (dewisol)
Mae'r modiwl hwn yn rhoi mewnwelediadau i ddarpar reolwyr i faes arwain mewn cyd-destun byd-eang. Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o heriau arwain gweithlu amrywiol a modern ac yn datblygu sgiliau rheoli pobl allweddol.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Mae ein cwrs busnes a rheoli atodol wedi'i rannu'n ddau dymor 12 wythnos. Byddwch yn dysgu drwy sesiynau addysgu rhyngweithiol wyneb yn wyneb ar ffurf darlithoedd, yn ogystal â gweithdai sy'n seiliedig ar dechnegau dysgu gweithredol ac sy’n galluogi digon o gydweithio a thrafod.
Mae'r dulliau addysgu'n seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn ac astudiaethau achos diweddar, a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i weithio gyda busnesau fel rhan o wahanol fodiwlau. Drwy ddefnyddio'r dull hwn, gall myfyrwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau cyfredol a datblygiadau busnes yn ogystal â meithrin hyder a sgiliau ar gyfer y byd gwaith.
Bydd ystod o ddulliau yn cael eu defnyddio i asesu, gan gynnwys cyflwyniadau, traethodau, portffolios, arholiadau a phrofion ac yn y dosbarth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/course-business-and-management-business-clinic-42261.jpg)
Staff addysgu
Mae ein staff addysgu yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu cefnogol, sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac maent i gyd yn academyddion cymwys sydd â phrofiad o weithio mewn sawl sector gan gynnwys manwerthu, marchnata, cyfrifyddu a chyllid, logisteg a chadwyn gyflenwi, strategaeth, arwain a rheoli. Mae eu cefndiroedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau yn rhoi mewnwelediad i fyfyrwyr i wahanol ddiwydiannau ac yn helpu i gysylltu theori ag ymarfer.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-research-generic-40225.jpg)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Mae cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu ag interniaethau rhithwir ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan eu galluogi i gydweithio ag amrywiaeth o fusnesau a'u helpu i fynd i'r afael â'u heriau yn y byd go iawn. Mae'r rhain yn gyfleoedd allgyrsiol i fyfyrwyr ac maent yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau a phrofiad ymarferol gwerthfawr ar gyfer llunio CV.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/business-services/business-services-business-generic.jpg)
Cyfleusterau
Fel myfyriwr busnes a rheoli, byddwch yn astudio ar ein campws Trefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru. Mae gennym ystod o amgylcheddau dysgu ac astudio yn yr ysgol busnes y gellir eu harchebu, mae myfyrwyr yn defnyddio’r rhain ar gyfer cydweithio a gweithio. Gall myfyrwyr hefyd elwa o'n hwb pwrpasol ar gyfer cychwyn busnesau, y Stiwdio Sefydlu, sydd wedi'i chynllunio i helpu i ddatblygu a thyfu syniadau busnes newydd. Gall myfyrwyr sy’n teimlo'n angerddol am entrepreneuriaeth gael cyngor ar sut i ddechrau eu busnesau eu hunain a thyfu eu rhwydwaith drwy ddigwyddiadau amrywiol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-library-50020.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Cwblhau HND yn llwyddiannus mewn Astudiaethau Busnes neu Fusnes a Chyfrifyddu, Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes, Rheoli Sector Gwasanaeth neu Reoli Manwerthu, neu gymhwyster cyfatebol e.e. Diploma mewn Addysg Uwch neu Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM (Lefel 5).
Gwneir ystyriaeth yn unigol ar gyfer cymwysterau amgen a / neu brofiad perthnasol ar yr amod bod myfyrwyr yn gallu dangos digon o wybodaeth a dealltwriaeth gysylltiedig i'w paratoi ar gyfer astudio lefel 6 mewn disgyblaeth fusnes. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos 240 credyd (neu gyfwerth) a gall polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) y Brifysgol ymddangos yn y penderfyniad i gynnig lle ar y cwrs. Dylid cyfeirio at brofiad, cymwysterau a gwybodaeth berthnasol yn natganiad personol yr Ymgeisydd.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr, byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.
Cost: I fyny at £250
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.