BA (Anrh)

Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi) (Atodol)

Adeiladwch ar eich cymwysterau presennol, gwellwch eich sgiliau logistaidd ac enillwch radd israddedig mewn llai na blwyddyn gyda'r cwrs Rheoli Busnes atodol hwn.

Sut i wneud cais Gwneud Cais Drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Gan ymchwilio i arferion ac egwyddorion craidd rheoli cadwyn gyflenwi, mae'r cwrs hwn yn pwysleisio integreiddio logisteg, caffael a gweithrediadau’n ddi-dor i yrru effeithlonrwydd gweithredol, cost-effeithiolrwydd, a chynaliadwyedd hirdymor ar draws cadwyni cyflenwi byd-eang.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu gymhwyster cyfatebol ac sy'n awyddus i ddysgu sgiliau allweddol ym maes rheoli cadwyni cyflenwi, yn ogystal â gradd baglor lawn.

Llwybrau gyrfa

  • Entrepreneur
  • Rheolwr gweithrediadau
  • Rheoli cadwyn gyflenwi
  • Cydlynydd logisteg
  • Rheolwr prynu

Sgiliau a addysgir

  • Ymwybyddiaeth busnes
  • Sgiliau rhyngbersonol
  • Datrys problemau
  • Hunanreoli
  • Marchnad fyd-eang

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cwblhau prosiect byw

Cewch ymchwilio i bwnc a sefydliad o'ch dewis, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau wrth gynnal ymholiad.

Arbenigo

Cwblhewch fodiwlau pwrpasol ym maes rheoli cadwyn gyflenwi i wella eich sgiliau presennol.

Gweithio gydag arbenigwyr

Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol o arbenigwyr busnes a fydd yn eich cefnogi i ddod y fersiwn gorau ohonoch chi eich hun.

Y gorau yng Nghymru

Mae’r cwrs Rheoli Busnes yn PDC ar frig y rhestr Ansawdd Addysgu yng Nghymru (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025).

Trosolwg o'r Modiwl

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sydd wedi'u cynllunio i wella eich gwybodaeth am fusnes, rheoli a logisteg dros ddau dymor o 12 wythnos. Bydd y tymor cyntaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am theori rheoli busnes, ac yn yr ail dymor bydd cyfle i chi arbenigo mewn meysydd, o reoli deunydd i gaffael.

Tymor un

Rheoli Cymhwysol
Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gychwyn ar yrfa mewn rheolaeth ganol.

Ymchwil Busnes: Egwyddorion ac Ymarfer
Adeiladwch sgiliau hanfodol a dysgwch am dechnegau sydd eu hangen i gynnal ymchwiliad go iawn i broblem fusnes.

Gwella Llwyddiant Academaidd
Mae'r modiwl heb gredydau hwn wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau academaidd a busnes ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Strategaeth Busnes
Cewch safbwynt cyfannol a strategol o sefydliadau a'u hamgylcheddau. Archwiliwch themâu fel masnachu, arloesi a rheoli trawsddiwylliannol wrth ddysgu sut i ddadansoddi heriau busnes byd-eang.

Tymor dau

Logisteg a Rheoli Deunyddiau
Archwiliwch dechnegau a strategaethau ar gyfer cynllunio, trefnu a rheoli'r broses logisteg gyffredinol gan gynnwys meysydd ymarferol rhagweld, rheoli rhestrau eiddo a gwasanaethau cwsmeriaid.

Caffael Masnachol
Byddwch yn archwilio'r theori a'r cymhwysiad ymarferol sy'n sail i brosesau sy'n gysylltiedig â ffurfio cytundebau masnachol a pherthnasoedd â sefydliadau allanol.

Prosiect Rheoli
Datblygwch eich sgiliau rheoli busnes proffesiynol wrth i chi ddefnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu a'i gymhwyso mewn gweithgaredd prosiect byw ochr yn ochr â thiwtor goruchwylio.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae ein cwrs Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi) atodol wedi'i rannu'n ddau dymor 10 wythnos. Byddwch yn dysgu drwy sesiynau addysgu rhyngweithiol wyneb yn wyneb ar ffurf darlithoedd, yn ogystal â gweithdai sy'n seiliedig ar dechnegau dysgu gweithredol ac sy’n galluogi digon o gydweithio a thrafod.

Mae'r dulliau addysgu'n seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn ac astudiaethau achos diweddar, a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i weithio gyda busnesau fel rhan o wahanol fodiwlau. Drwy ddefnyddio'r dull hwn, gall myfyrwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau cyfredol a datblygiadau busnes yn ogystal â meithrin hyder a sgiliau ar gyfer y byd gwaith.

Bydd ystod o ddulliau yn cael eu defnyddio i asesu, gan gynnwys cyflwyniadau, traethodau, portffolios, arholiadau a phrofion ac yn y dosbarth.

Staff addysgu

Mae ein staff addysgu yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu cefnogol, sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac maent i gyd yn academyddion cymwys sydd â phrofiad o weithio mewn sawl sector gan gynnwys manwerthu, marchnata, cyfrifyddu a chyllid, logisteg a chadwyn gyflenwi, strategaeth, arwain a rheoli. Mae eu cefndiroedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau yn rhoi mewnwelediad i fyfyrwyr i wahanol ddiwydiannau ac yn helpu i gysylltu theori ag ymarfer.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Mae cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu ag interniaethau rhithwir ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan eu galluogi i gydweithio ag amrywiaeth o fusnesau a'u helpu i fynd i'r afael â'u heriau yn y byd go iawn. Mae'r rhain yn gyfleoedd allgyrsiol i fyfyrwyr ac maent yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau a phrofiad ymarferol gwerthfawr ar gyfer llunio CV.

Cyfleusterau

Fel myfyriwr busnes a rheoli, byddwch yn astudio ar ein campws Trefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru. Mae gennym ystod o amgylcheddau dysgu ac astudio yn yr ysgol busnes y gellir eu harchebu, mae myfyrwyr yn defnyddio’r rhain ar gyfer cydweithio a gweithio. Gall myfyrwyr hefyd elwa o'n hwb pwrpasol ar gyfer cychwyn busnesau, y Stiwdio Sefydlu, sydd wedi'i chynllunio i helpu i ddatblygu a thyfu syniadau busnes newydd. Gall myfyrwyr sy’n teimlo'n angerddol am entrepreneuriaeth gael cyngor ar sut i ddechrau eu busnesau eu hunain a thyfu eu rhwydwaith drwy ddigwyddiadau amrywiol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Gall graddedigion roi cynnig ar amrywiaeth o yrfaoedd – o reolwyr gweithrediadau i ymgynghorwyr. Mae myfyrwyr eraill yn mynd ymlaen i gwblhau astudiaethau pellach ar ffurf graddau meistr a chymwysterau addysg uwch eraill.

Mae ein tîm gwasanaethau gyrfaoedd yn ymroddedig i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol ar gyfer profiad gwaith neu swydd ar ôl graddio. Mae gennym hefyd dîm datblygu cyflogadwyedd sy'n rhedeg rhaglen o'r enw Camu ‘Mlaen, a thîm menter sy'n canolbwyntio ar entrepreneuriaeth a syniadau busnes newydd.

Cymorth Gyrfaoedd

Bydd modd i chi gael gafael ar gyngor gan ein gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau a phan fyddwch yn graddio. Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau un-i-un gydag ymgynghorwyr gyrfa yn y gyfadran naill ai wyneb yn wyneb neu dros Skype neu e-bost. Mae gennym hefyd adnoddau ar-lein i’ch helpu i ystyried opsiynau gyrfa a sicrhau eich bod yn cyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, lluniwr CV, efelychydd cyfweliad, a chymorth gyda cheisiadau. Mae gennym hefyd dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu graddedigion busnes, felly byddwn yn eich cofrestru i gael negeseuon e-bost wythnosol am swyddi sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau hefyd.

Partneriaid yn y Diwydiant

Mae gan ein staff addysgu gysylltiadau anhygoel â’r diwydiant, sy'n eich galluogi i weithio gyda busnesau ar friffiau byw ac astudiaethau achos fel rhan o'ch astudiaethau. Mae'r cydweithio hwn yn galluogi myfyrwyr i gael mewnwelediad i’r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu a datblygu sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi drwy ddefnyddio’r hyn maent wedi'i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Cwblhau HND yn llwyddiannus mewn Astudiaethau Busnes neu Fusnes a Chyfrifyddu, Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes, Rheoli Sector Gwasanaeth neu Reoli Manwerthu, neu gymhwyster cyfatebol e.e. Diploma mewn Addysg Uwch neu Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM (Lefel 5).

Gwneir ystyriaeth yn unigol ar gyfer cymwysterau amgen a / neu brofiad perthnasol ar yr amod bod myfyrwyr yn gallu dangos digon o wybodaeth a dealltwriaeth gysylltiedig i'w paratoi ar gyfer astudio lefel 6 mewn disgyblaeth fusnes. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos 240 credyd (neu gyfwerth) a gall polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) y Brifysgol ymddangos yn y penderfyniad i gynnig lle ar y cwrs. Dylid cyfeirio at brofiad, cymwysterau a gwybodaeth berthnasol yn natganiad personol yr Ymgeisydd.

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr, byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.

Cost: I fyny at £250

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.