BEng (Anrh)

Peirianneg Systemau Mecanyddol

Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Sut i wneud cais Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,200*

Mae'r radd BEng Peirianneg Systemau Mecanyddol hon yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol a mathemategol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae cryn alw am beirianwyr mecanyddol mewn pob math o ddiwydiannau a sectorau, fel prosesu bwyd, cynhyrchu fferyllol, ynni adnewyddadwy, y diwydiant modurol ac awyrofod. Fe allech ddylunio, dadansoddi, ymchwilio a phrofi unrhyw beth o dyrbinau gwynt i beiriannau turbojet.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae gan beirianwyr mecanyddol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Mae atebion cynaliadwy i feysydd pwysig fel diogelwch ynni, cyflenwadau bwyd a dŵr, trafnidiaeth gynaliadwy ymhlith y meysydd lle mae Peirianwyr Mecanyddol yn cyfrannu eu gwybodaeth.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheolwr Cynhyrchu
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Modurol

Sgiliau a addysgir

  • Datblygu gwybodaeth am dechnoleg arloesol
  • Gwaith tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol fel cynaliadwyedd a moeseg

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Canolbwyntio ar ddiwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant ac rydym yn rhoi cryn bwyslais ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd lleoliad gwaith

Rydym yn annog lleoliadau diwydiannol ac yn cydweithio'n agos â chyflogwyr i gynorthwyo myfyrwyr gyda'r cyfle hwn.

Gwybodaeth arbenigol

Mae staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, rhai drwy weithgareddau ymchwil a rhai drwy ymarfer proffesiynol mewn gyrfaoedd diwydiannol.

Trosolwg o'r Modiwl

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i rai o'r meysydd pwnc craidd sy'n sail i Beirianneg Fecanyddol. Nod y cwrs yw cyflwyno amrywiaeth o bynciau, fel bod y wybodaeth yn cael ei sefydlu mewn arddulliau addysgu amrywiol.

Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol

Mae'n rhoi hyder i fyfyrwyr mewn mathemateg ac yn dangos perthnasedd mathemateg mewn peirianneg. 

Dylunio a Gweithgynhyrchu

Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth sylfaenol am ddylunio peirianyddol a gweithgynhyrchu a deunyddiau ac yn ennill sgiliau mewn arferion gweithgynhyrchu.

Rhaglenni Cyfrifiadura Peirianneg

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd o raglenni cyfrifiadurol ym maes peirianneg drwy raglennu a dylunio â chymorth cyfrifiadur.

Mecaneg Peirianneg 1

Mae cynnwys y modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â Mecaneg Peirianneg a Mecaneg Deunyddiau, er mwyn i fyfyrwyr ddysgu am broblemau ym maes mecaneg fel y'u cymhwysir i senarios a fyddai’n gredadwy yn y byd go iawn.

Gwyddoniaeth Drydanol

Mae'r modiwl hwn yn cydnabod natur drawsddisgyblaethol peirianneg mewn ymarfer proffesiynol ac yn rhoi cipolwg ar bwysigrwydd gwybodaeth am theori drydanol a dylunio cylched.

Thermohylifau 1

Mae'n rhoi dealltwriaeth sylfaenol i fyfyrwyr o briodweddau mecaneg thermodynamig a hylif ar gyfer hylifau a nwyon.

Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar sylfeini'r flwyddyn astudio flaenorol, gan ddyfnhau'r wybodaeth a datblygu'r gallu i gymhwyso'r wybodaeth honno i broblemau fwyfwy cymhleth. Mae'r arddull addysgu’n parhau ag ethos ymarferol y rhaglen sy'n seiliedig ar broblemau.

Mathemateg Bellach ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol

Mae'r modiwl hwn yn addysgu myfyrwyr i ddewis a chymhwyso amrywiaeth o ddulliau dadansoddi mathemategol i ddatrys problemau peirianneg. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu modelau mathemategol o systemau peirianneg.

Dylunio Peirianneg Gynaliadwy

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth y myfyrwyr am y broses ddylunio ac yn datblygu eu gwybodaeth am y defnydd o ddylunio â chymorth cyfrifiadur yn y broses ddylunio

Mecaneg Peirianneg 2

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a datrys problemau mwy datblygedig mewn Stateg a Dynameg. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i nifer o egwyddorion gwyddonol o bwys sy'n sail i ddylunio a gweithredu systemau peirianneg.

Rheolaeth ac Offeryniaeth

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu asesu ymddygiad statig a dynamig offeryniaeth a systemau rheoli drwy ddulliau dadansoddol sylfaenol a theori rheoli ym mharthau amser ac amlder.

Thermohylifau 2

Mae'r modiwl hwn yn ymestyn egwyddorion thermodynameg ac yn eu cymhwyso i amrywiaeth o gymwysiadau peirianneg a diwydiannol. Mae cysyniadau sy'n ymwneud â llif hylif yn cael eu cyfnerthu i alluogi myfyrwyr i ddadansoddi ffenomenau cymhwysol mwy cymhleth.

 

Mae'r flwyddyn olaf yn atgyfnerthu'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn ac yn ei datblygu i lefel uwch gyda'r problemau a gyflwynir yn fwy amwys eu natur bellach er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn diwydiant. Mae'r prosiect unigol yn rhan allweddol o'r flwyddyn hon ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau wrth wynebu problem neu her beirianneg sylweddol.

Prosiect Unigol BEng (Craidd)

Y bwriad yw i fyfyrwyr gynnal ymchwil/prosiectau manwl sy'n berthnasol i'w pwnc. Mae'n gwella gwybodaeth, yn hyrwyddo gwaith annibynnol, ac yn annog dysgu gydol oes.

Prosiect Unigol (Dewisol)

Thermohylifau 3

Pwrpas y modiwl hwn yw atgyfnerthu ac ymestyn ymhellach egwyddorion thermodynameg a gymhwysir i amrywiaeth o systemau cynhyrchu pŵer a systemau ynni ac i atgyfnerthu ac ymestyn ymhellach egwyddorion mecaneg hylif a'u cymhwyso i amrywiaeth o beiriannau tyrbo.

Dylunio a Dadansoddi

Nod y modiwl yw galluogi'r myfyrwyr i gynnal dadansoddiad peirianneg fel rhan o'r broses ddylunio, er mwyn gallu dehongli'r canlyniadau a gafwyd a gwneud penderfyniadau dylunio ar sail y dadansoddiad a wnaed.

Rheolaeth Ddiwydiannol

Nod y modiwl hwn yw ymestyn gwerthfawrogiad a gwybodaeth y myfyriwr am Systemau Rheoli Peirianneg.

Mecaneg a Rheolaeth

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r gallu i'r myfyriwr ddadansoddi systemau mecanyddol a rheoli cymhleth.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau. Yn ogystal â hyn, byddwch yn treulio amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol yn y diwydiant peirianneg. Byddwch yn dysgu drwy waith ymarferol, prosiectau grŵp a phrosiect blwyddyn olaf hefyd, ynghyd ag ymweliadau â diwydiant.

Asesir y radd peirianneg fecanyddol trwy aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth parhaus ac arholiadau. Caiff cyflwyniadau eu cynnwys fel elfennau o asesiadau mewn rhai modiwlau, er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno allweddol.

Staff addysgu

Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau arbenigedd eang yn eu meysydd pwnc. 

Mae rhai wedi datblygu'r arbenigedd hwn trwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae'r meysydd ymchwil yn rhyngwladol o ran eu cwmpas ac yn berthnasol yn lleol hefyd, gan weithio'n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy'n gweithredu'n lleol. 

Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd trwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maen nhw’n defnyddio'r wybodaeth honno bellach i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.

Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd sydd gan y staff academaidd yn sicrhau bod profiad y myfyriwr yn un eang ac yn eu datblygu'n dechnegol ac yn broffesiynol.

Lleoliadau

Rydym yn gwybod beth yw gwerth lleoliad a phrofiad gwaith ac rydym yn awyddus iawn i weld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn cydweithio ag amryw o
gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau Peirianneg Fecanyddol yn rhagorol. Maent yn cynnwys:

  • Ystafelloedd cyfrifiadurol gyda chyfarpar o safon a meddalwedd dylunio a
    dadansoddi o'r radd flaenaf (safon diwydiant). (SolidWorks, Ansys, FEA a CFD, LS-
    Dyna, SolidCAM, Simul8, ac ati), gyda chlwstwr (Super Computer) i'w ddefnyddio ar weithgareddau cyfrifiadurol lefel uwch.
  • Ystafelloedd prosiect pwrpasol ar gyfer pob carfan, mynediad at dorrwr laser a
    llwybrydd CNC pedair echelin.
  • Cyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansawdd, gan gynnwys awtoclafau.
  • Cyfleusterau gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D), sganiwr laser, twnnel
    gwynt, cyfleusterau profi deunydd helaeth, yn ogystal â labordai gydag offer ar gyfer ategu addysgu ym mhob pwnc craidd, mecaneg, dynameg, deunyddiau,
    thermodynameg, dynameg hylif a rheolaeth.
  • Cyfleusterau profi annistrywiol (NDT).
  • Mynediad at staff technegol yn ein gweithdai sy'n cynnwys canolfan beiriannu CNC, turnau a pheiriant melino, driliau, ac ati, i'w defnyddio ar yr holl waith prosiect a wneir.
  • Ardal fawr amlddisgyblaeth mynediad agored a adeiladwyd ar gyfer prosiectau.
  • Ardal adeiladu Fformiwla Myfyriwr (Agor mewn tab newydd) llawn cyfarpar.

Storïau Myfyrwyr

Musab Kazi

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Santino Petrosillo

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Thomas McNee

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Vignesh Pathmaraj

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Waseem Akram

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Wayne Price

Graddedig Peirianneg Fecanyddol

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae gan ein gradd Peirianneg Fecanyddol enw da yn y diwydiant, ac mae ein graddedigion wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, dylunio, rheoli gweithgynhyrchu, gwerthiant technegol, a pheirianneg cyfarpar.

Gall graddedigion symud ymlaen i PhD neu radd ymchwil mewn Peirianneg hefyd.

Llwybrau gyrfa posibl

Efallai fod gennych lwybr gyrfa clir rydych yn anelu ato a gallwn eich helpu i gyrraedd yno. Ar y llaw arall, efallai eich bod yn dal i fod yn ansicr ynghylch y cyfeiriad yr hoffech fynd iddo a dyna pam y bydd ein darlithwyr, ein cysylltiadau yn y diwydiant a'n gwasanaethau gyrfaoedd am siarad â chi am y cyfleoedd hyn. Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn Beiriannydd Mecanyddol – mae'r byd yn wynebu heriau mawr ac rydym ar y blaen o ran datblygu atebion i lawer ohonynt.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyngor Derbyn

Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Siarad â ni

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.