Rheoli Prosiect Adeiladu gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Chwaraewch eich rhan yn y gwaith o ddatblygu isadeiledd yfory. Dyma gyfle i chi fireinio eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes Rheoli Prosiectau Adeiladu.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-construction-project-management-placeholder-02.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
K222
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd astudio cwrs BSc (Anrh) Rheoli Prosiectau Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi’r sgiliau a’r hyblygrwydd angenrheidiol i chi mewn sector cynyddol ddeinamig. Rydym yn derbyn myfyrwyr yn syth o'r ysgol, ac unigolion sydd â phrofiad sylweddol o weithio yn yr Amgylchedd Adeiledig sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u rhagolygon gwaith.
Wedi’i achredu gan
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), a’r
- Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM).
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Prosiectau Cleientiaid
- Rheolwr Prosiectau Adeiladu
- Rheolwr Safle
- Rheolwr Cyfleusterau
- Rheolwr Gweithrediadau
Y sgiliau a addysgir
- Cyfathrebu
- Datrys problemau
- Sgiliau TG/Digidol
- Gweithio gydag eraill
- Cyflogadwyedd
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn astudio’r arferion a’r gweithdrefnau diweddaraf ar gyfer rheoli prosiectau adnewyddu ac adeiladu o’r newydd, mentrau diwydiannol megis partneriaethau strategol a chydweithio, rhagluniadau parod a gweithgynhyrchu oddi ar y safle, technegau adeiladu darbodus, a datrys anghydfodau. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso meddwl beirniadol i'ch profiadau, gan weithio tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Sylfeini Mathemateg
Cymhwyso Sgiliau Mathemategol
Egwyddorion Peirianneg Sylfaenol
Cyflwyniad i’r Diwydiant Adeiladu
Prosiect Peirianneg
Sgiliau Peirianneg Hanfodol
Cyfraith yr Amgylchedd Adeiledig
Pwrpas y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i werthfawrogi’r ystod eang o gyfreithiau sy’n berthnasol i ddiwydiant adeiladu’r DU a’r amgylchedd adeiledig.
Economeg yr Amgylchedd Adeiledig
Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio fel cyflwyniad i’r economi gyffredinol ac economi’r Amgylchedd Adeiledig, er mwyn helpu myfyrwyr i ddechrau datblygu darlun cyfannol o weithgarwch economaidd a theori economaidd.
Egwyddorion yr Amgylchedd Adeiledig
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r cysyniad o’r Amgylchedd Adeiledig a’r effaith y mae adeiladu’n ei chael arno.
Technolegau Digidol
Yn ystod y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ennill profiad o ddefnyddio sawl gwahanol dechnoleg i arolygu, darlunio, mesur a dadansoddi. Bydd y dechnoleg yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Sganiwr Laser 3D, Mesurydd Laser, Dronau a phensetiau Realiti Rhithwir (VR).
Datblygiad a Chymdeithas
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r ffyrdd y mae gofod a'r amgylchedd adeiledig yn esblygu dros amser. Mae’n ystyried sut mae datblygiad yn cael ei gyfyngu a’i herio drwy brosesau cymdeithasol, gwleidyddol a daearyddol.
Technoleg Adeiladu
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i swyddogaeth, hanfodion perfformiad a thechnegau adeiladu cyffredin a ddefnyddir ar gyfer prif gydrannau anheddau domestig.
Rheoli Adeiladau
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n berthnasol i reoli adeiladau domestig masnachol, gan gynnwys deddfwriaeth, diogelwch o ran arolygu, a'r gwahanol fathau o arolygu.
Cyllid Prosiectau
Cyfle i astudio’r ffactorau sy’n effeithio ar gost adeiladu safle datblygu. Mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am dendro ac amcangyfrif; crynoadau cyfraddau sylfaenol a chyfrifiadau cyfraddau cyfansawdd sy'n ymwneud â phrosiectau.
Ymarfer Rheoli Contractau
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o weithdrefnau Gweinyddu Cysylltiadau sy’n ymwneud â Rheoli Contractau Adeiladu yn Ymarferol yn ystod y camau cyn ac ar ôl cytuno ar gontract.
BIM a Rheoli Data
Cyflwynir myfyrwyr i Fodelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) a'r Amgylchedd Data Cyffredin, a byddant yn defnyddio pecynnau meddalwedd sy'n rhan o Brosiect BIM, o’r cam dylunio drwy’r adeiladu tan i'r eiddo gael ei feddiannu.
Rheoli Prosiectau ac Ymarfer Proffesiynol
Mae cynnwys y modiwl wedi’i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth am reoli prosiectau ac ymarfer proffesiynol, gan ddarparu’r gallu i gymhwyso’r rhain mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd yn y sector.
Technoleg Adeiladu Uwch
Atgyfnerthu gwybodaeth am dechnoleg adeiladu, gan gynnwys swyddogaeth, hanfodion perfformiad a thechnegau adeiladu cyffredin, er mwyn ymestyn dealltwriaeth y myfyrwyr o brif gydrannau adeiladau masnachol uchel iawn.
Gall myfyrwyr gymryd blwyddyn ryngosod a mynd ar leoliad mewn diwydiant.
Traethawd Estynedig yr Amgylchedd Adeiledig
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â phrosiect ymchwil manwl sy’n berthnasol i faes pwnc o’u dewis.
Rheoli Prosiectau Adeiladu
Mae'r modiwl hwn yn ffocysu ar reoli iechyd a diogelwch, logisteg safleoedd a chynllunio ar gyfer rhedeg safle adeiladu, gan ymgorffori'r ddeddfwriaeth sy'n sail i hyn.
Rheoli Masnachol a Mentergarwch
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar heriau sy’n gysylltiedig â diwydiant ac sy’n gysylltiedig â rheoli masnachol, yn ogystal â cheisio gwella sgiliau rheoli a busnes yng nghyd-destun adeiladu a datblygu.
Rheolaeth Adeiladu
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau cynllunio ac adeiladu. Bydd myfyrwyr yn gallu nodi toriadau ac anghydfodau, a darparu cyngor ar gydymffurfiaeth a datrysiadau.
Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol a’r amgylchedd adeiledig.
Rheoli Prosiectau yn Ymarferol
Astudio materion Rheoli Prosiect sy’n ymwneud â rheoli cleientiaid adeiladu a rhanddeiliaid prosiect eraill a sut gellir rheoli eu hanghenion yn ystod oes y prosiect.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi’n dysgu
Addysgir y radd Rheoli Prosiectau Adeiladau drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau safle â chwmnïau lleol, gan eich galluogi i weld sut mae theori’n cael ei chymhwyso mewn lleoliad proffesiynol. Byddwch yn gweithio’n annibynnol i baratoi ar gyfer dosbarthiadau a chwblhau gwaith prosiect.
Nid ydym yn credu y gallwch ddysgu sgiliau hanfodol fel gwneud penderfyniadau dadansoddol a datrys problemau drwy ddarllen amdanynt yn unig. Dyna pam rydym ni’n cynnig gweithgareddau ymarferol sy’n eich helpu i ddeall a chymhwyso’r theori rydych chi’n ei dysgu mewn darlithoedd.
Bydd asesiadau'n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs ac ymarferion sy'n seiliedig ar broblemau a addysgir gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/built-environment/built-environment-bsc-real-estate-placeholder-02.png)
Staff Addysgu
Mae’r pwnc Rheoli Prosiectau Adeiladu yn cynnig polisi drws agored, lle gall myfyrwyr gael mynediad at staff ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn cynnig Hyfforddwr Academaidd Personol ar gyfer pob un o'n myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/built-environment/subject-built-environment-case-study-Mercedes-vaughan-matthews-classroom-27254.jpg)
Lleoliadau
Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o’ch gradd rheoli prosiectau adeiladu. Yn ystod y flwyddyn ryngosod hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf.
Gall ein swyddog lleoliadau gyrfaoedd pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliadau yn ystod y gwyliau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/built-environment/subject-built-environment-generic-43760.jpg)
Cyfleusterau
Ar gyfer profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk, QTO, CostX, Synchro, a Navisworks.
Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r technolegau digidol diweddaraf fel dronau, delweddu thermol, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-facilities-classroom-44989.jpg)
Gofynion mynediad
Pwynt tariff UCAS: 48
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Ddiploma BTEC Pasio Pasio
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
- Safon T: Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel arfer yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.