Peirianneg Sifil gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Mae peirianneg sifil yn ymwneud yn llwyr â phobl, o gyflenwi ynni a dŵr glân i'n cartrefi i ailgylchu ein gwastraff. Cymerwch eich camau cyntaf tuag at radd lawn wrth archwilio sut mae peirianwyr sifil yn gweithio ar y gwasanaethau a'r cyfleusterau rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H20F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn eich helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth lefel gradd a gyrfa mewn peirianneg sifil. Byddwch yn magu hyder wrth i chi astudio gyda chymorth ein staff arbenigol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi'n bwriadu dod yn beiriannydd sifil ond nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf derbyn, mae ein Blwyddyn Sylfaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer y radd lawn. Byddwch chi'n ennill sylfaen gadarn, gan gynnwys yr holl sgiliau a gwybodaeth hanfodol, gan eich paratoi ar gyfer y radd lawn a gyrfa mewn peirianneg sifil.
Achredir gan
- Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr
- Sefydliad y Peirianwyr Sifil,
- Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol
- Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd
- Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant
- Permanent Way Institution ar ran y Cyngor Peirianneg
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Dylunio
- Peiriannydd Mecanyddol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Ymchwil
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau drwy ddadansoddi gan ddefnyddio theori wyddonol a pheirianneg
- Gwybodaeth ddatblygedig am dechnoleg flaengar
- Gwaith tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Deall cyfrifoldebau proffesiynol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae eich Blwyddyn Sylfaen yn ymwneud yn llwyr â rhoi sail i chi drawsnewid yn llwyddiannus i'r cwrs llawn. Yma byddwch chi'n datblygu dealltwriaeth o hanfodion y pwnc.
Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Peirianneg ar Waith: O Theori i Ymarfer
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.
Dylunio a Chynhyrchu ar Waith
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg, gan gynnwys y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Byddwch yn archwilio'r broses ddylunio lawn, o ymchwil i greu a phopeth yn y canol.
Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.
Sut byddwch chi'n cael eich asesu
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Lleoliadau
Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw lleoliadau a phrofiad gwaith ac rydym yn frwdfrydig ynghylch gweld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Cyfleusterau
Mae ein labordai peirianneg sifil â'r peiriannau diweddaraf â chymorth a rheolaeth cyfrifiadur. Rydym hefyd yn mynd â'n myfyrwyr ymhell y tu hwnt i berimedr campws Prifysgol De Cymru, gan ddefnyddio teithiau maes, ymweliadau safle a lleoliadau diwydiant i wella a gwreiddio'ch dysgu.
Mae cyrsiau Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024Hyb Arloesi yn PDC
Pam PDC?
Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yng Nghymru. (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yn y DU ar gyfer Deilliannau Graddedigion (Complete University Guide 2026)
Pam PDC?
90%
Roedd 90% o fyfyrwyr BSc (Anrh) Peirianneg Sifil PDC yn fodlon ar eu cwrs.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yng Nghymru. (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)
Mae Peirianneg Sifil yn PDC ar y brig yn y DU ar gyfer Deilliannau Graddedigion (Complete University Guide 2026)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
- BTEC: BTEC Pas Pas Pas Diploma Estynedig neu BTEC Pas Pas Diploma
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
- Safon T: Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.