Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025

Animieddio a Gemau

Mae animeiddwyr a dylunwyr gemau yn rhan enfawr o fyd adloniant yr 21ain ganrif. Gallwch gyfoethogi eich doniau cynhenid a datblygu sgiliau technegol newydd ar ein cyrsiau Animeiddio a Gemau

Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 Astudio Animeiddio a Gemau yn PDC
First Flight - Molly Hill

Cymeriadau, straeon a bydoedd rhyngweithiol gwreiddiol, wedi'u creu yn defnyddio offer a thechnegau o safon y diwydiant.


BA (Anrh) Animeiddio (2D a Stop-Symud)

student-25

BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol

First Flight - Molly Hill


BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Overstaffed

Mae Overstaffed yn gêm antur gydweithredol gyffrous ar gyfer dau chwaraewr wedi'i gosod ym myd Arrilla.

Mae'r dewiniaid mae'r chwaraewyr yn eu rheoli yn archwilio ardal hynafol y Forsaken Ruins, sy'n gartref i lawer o amgylcheddau gwahanol, pob un â'i hinsawdd a'i drigolion ei hun, gyda’r nod o ddod o hyd i arteffact hynod bwerus.

Mae'r gêm yn cynnwys elfennau cydweithredol lluosog fel gor-stacio, sy’n galluogi  chwaraewyr i daflu ei gilydd i gyrraedd ardaloedd na fyddai modd eu cyrraedd fel arfer neu drechu gelynion mwy ffyrnig.

Dylunydd Lefelau ac Asedau: Oscar Cox

Rhaglennu a Rhyngwyneb Defnyddwyr: Joshua Bath

Rhaglennydd Arweiniol: Connor Elsbury

Dylunydd Lefelau, Animeiddiwr Technegol a Chyffredinol: Cameron Fritz

Dylunydd Lefelau ac Artist Effeithiau Gweledol: Rhys Jones

Artist Technegol: Erlend Folkstead

Dylunydd Sain a Chyfansoddwr Cerddoriaeth: Wigg Grant

Lawrlwytho Overstaffed

Verdant Veil

Chwilota am fwyd sydd wrth wraidd yr antur lawn hwyl hon, mewn set amrywiol o fïomau.

Rydych chi'n dod o hyd i gynhwysion, yn sgwrsio â ffrindiau ac yna’n coginio bwydydd blasus ar gyfer yr ŵyl sydd ar y gweill!

Systemau Coginio: Bethany Filcock

Dylunio Lefelau a’r Amgylchedd: Cian Thomas

Prif Ddylunio Rhyngwyneb/Profiad Defnyddwyr: Eloise Ford

Dylunio Rhyngwyneb Defnyddwyr, Naratif: Kacper Skiba

Rhaglennu Chwaraewyr heb Gymeriad: Tyler Silverthorne

Celf Cymeriadau a Bwyd: Siobhan Ip

Animeiddio a Chelf Cysyniad: Kei Griffiths

Celf Amgylchedd: April Shakesheff

Artist Rhyngwyneb Defnyddwyr: Sophia Frampton

Celf Wastad a Chegin: Ella Bindon

Dylunio Sain: Lewis Gould

Lawrlwytho Verdant Veil

Flight Club

Flight Club

Gêm ymladd drôn awyr cyflym i 2 chwaraewr lle mae pob chwaraewr yn rasio i gyrraedd mannau croes yn yr un lefel drwy ddefnyddio gwrthdrawiadau cyflym a galluoedd anhygoel i drechu eu gwrthwynebydd.

Rhaglennu/Rhyngwyneb Defnyddwyr: Xander Evans

Dylunio/Dylunio Lefelau: Luca Davies

Dylunio/Rhaglennu Lefelau: Suba Sumanan

Dylunio Gweledol: Antoine Durham

Lawrlwytho Flight Club

BA (Anrh) Celf Gemau


Diddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?

Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.