Ymgynghoriad ar oblygiadau’r adolygiad o’n darpariaeth academaidd i’r gweithlu

Ddydd Mercher 19 Chwefror, lansiwyd ymgynghoriad ar oblygiadau’r adolygiad o’n darpariaeth academaidd i’r gweithlu. Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor i gydweithwyr ac undebau llafur tan ddydd Gwener 4 Ebrill 2025.

Rydym wedi adolygu’r ystod o gyrsiau rydym yn eu cynnal ar hyn o bryd ochr yn ochr â’n meysydd ymchwil ffocws, a sut dylent ymddangos yn y dyfodol. Rydym wedi edrych ar sut mae pynciau’n cyd-fynd â’n strategaeth hirdymor (PDC 2030), niferoedd myfyrwyr a’u profiad, cyllid, a’u heffaith a’u hallbynnau ymchwil. Rydym hefyd wedi adolygu effeithiau ehangach, fel ein partneriaethau â diwydiant, anghenion sgiliau rhanbarthol hanfodol, ac effaith ddinesig a chymunedol.

Mae hyn wedi bod yn adolygiad cynhwysfawr ac wedi arwain at benderfyniadau anodd gan y Brifysgol, ac yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd nifer fach o gyrsiau yn cau i ymgeiswyr newydd. Mewn rhai achosion, mae cyrsiau eisoes wedi’u hatal rhag recriwtio myfyrwyr newydd, a byddwn nawr yn eu dirwyn i ben. Bob blwyddyn, rydym yn cau cyrsiau am amrywiaeth o resymau, fel sawl blwyddyn o alw isel gan fyfyrwyr neu i uno cyrsiau, ond mae hwn yn adolygiad mwy na fyddai’n cael ei gynnal fel arfer. Wrth gau cyrsiau ac aildrefnu pynciau, mae’n anochel y byddwn yn edrych ar leihau’r gweithlu sy’n helpu i gefnogi gweithgareddau addysgu a dysgu yn y meysydd dan sylw.

Nid yw’r nifer fach o gyrsiau sydd wedi’u nodi i’w cau yn benderfyniad sy’n agored i ymgynghoriad, ac mae’r penderfyniad wedi’i gymeradwyo gan dîm Gweithredol y Brifysgol. Serch hynny, rydym yn ymgynghori ar yr effaith gysylltiedig ar staff sy’n helpu i gefnogi gweithgareddau addysgu a dysgu yn y meysydd hyn.

Rydym yn ymroddedig y bydd y cyrsiau hyn ond yn cau ar ôl i’r holl fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau.

Os ydych chi’n astudio ar gwrs a fydd yn cau yn y dyfodol, bydd eich cyfadran yn cysylltu â’ch carfan ar wahân cyn gynted â phosib, ac erbyn diwedd yr wythnos hon fan bellaf.

Rydym yn deall ei fod yn gyfnod hynod heriol i gymuned gyfan y Brifysgol, ac fe wnawn ni bopeth allwn ni i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi a’ch hysbysu drwy gydol y broses hon.

Bydd y cwestiynau cyffredin isod yn cael eu diweddaru’n rheolaidd drwy gydol y cyfnod hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’ch arweinydd cwrs a’r Ardal Gynghori yn y lle cyntaf.

Mae prifysgolion ledled gwledydd Prydain yn wynebu ystod o heriau allanol ar hyn o bryd. Yn PDC, yn anffodus mae’n rhaid i ni wneud newidiadau i rai o’r cyrsiau rydym yn eu haddysgu i helpu i sicrhau ein cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Mae angen i ni flaenoriaethu’r cyrsiau sy’n cyd-fynd yn agos â Strategaeth PDC 2030 ac sy’n helpu i wneud cyfraniad ariannol i’r heriau rydym yn eu hwynebu. O ganlyniad i’r gwaith hwn, bydd nifer fach o gyrsiau’n cau. Bob blwyddyn, rydym yn cau cyrsiau am amrywiaeth o resymau, fel sawl blwyddyn o alw isel gan fyfyrwyr neu i uno cyrsiau, ond mae hwn yn adolygiad mwy na fyddai’n cael ei gynnal fel arfer.

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs a fydd yn cau yn y dyfodol, bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib, ac erbyn diwedd yr wythnos hon fan bellaf. Os nad ydych chi’n cael e-bost erbyn y dyddiad hwn, gallwch gymryd nad yw’ch cwrs chi wedi’i effeithio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â’ch Arweinydd Cwrs yn y lle cyntaf.

Gallwch. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sydd wedi’u hymrestru ar gwrs sy’n mynd i gau yn y dyfodol, neu sy’n destun newidiadau gweithlu, yn gallu cwblhau eu rhaglen astudio (o fewn y rheoliadau a’r cyfnodau cofrestru).

Fel rhan o’r adolygiad, rydym wedi adolygu nifer y staff addysgu ym mhob pwnc a chwrs a’u capasiti llwyth gwaith. Mewn rhai achosion, roedd nifer y staff a oedd yn gysylltiedig â phob maes yn uwch na’r hyn oedd ei angen i addysgu’r cwrs. Mae hyn yn golygu ein bod yn ymgynghori ar leihau nifer y staff sy’n gweithio mewn rhai meysydd. Mae’r cynigion hyn yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad sydd ar agor i gydweithwyr tan ddydd Gwener 4 Ebrill, ac felly mae’n bosib y byddant yn newid.

Mae angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein seilwaith i aros yn gystadleuol a sicrhau dyfodol hirdymor y Brifysgol. Mae gennym gronfeydd wrth gefn cryf ar hyn o bryd, sydd wedi’u cronni yn ystod blynyddoedd blaenorol pan oedd modd i’r Brifysgol sicrhau gwarged, sy’n ein galluogi ni i fuddsoddi yn nyfodol y Brifysgol.

Rydym yn parhau â rhaglen fuddsoddi, a fydd yn hanfodol i gyflawni Strategaeth PDC 2030 a sicrhau ein bod yn gynaliadwy yn ariannol. Byddai dod â’r buddsoddiad hwn i ben nawr yn cael effaith niweidiol ar ein perfformiad ariannol yn y dyfodol, gan y byddai’n debygol o effeithio ar ein gallu i gadw a denu myfyrwyr yn y dyfodol a chystadlu’n effeithiol gyda marchnad sy’n gynyddol heriol.

Mae’n bwysig bod y Brifysgol yn gwneud gwarged bob blwyddyn, sy’n ein galluogi ni i fuddsoddi ac yn y pen draw darparu profiad gwell i’r myfyrwyr.

Heb warged, mae’r arian parod sydd gennym yn lleihau ac mae ein gallu i ail-fuddsoddi’n gostwng – felly mae angen i ni anelu at gyflawni gwarged ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod rhan i’n hincwm fod yn uwch na’n costau, ac nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd. Mae angen i ni drawsnewid er mwyn i ni allu parhau i gynhyrchu arian bob blwyddyn a bod yn gynaliadwy mewn marchnad anodd iawn.

Yn sicr rydym yn gweld gwerth yn yr holl feysydd rydym yn ystyried eu newid – nid yw’r rhain yn benderfyniadau y byddem yn dewis eu gwneud pe na baen ni mewn sefyllfa mor anodd. Serch hynny, yn anffodus, mae’r tirlun addysg uwch yn hynod heriol, ac mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd am ddarpariaeth ein cyrsiau. Y mwyaf o gyrsiau rydym yn eu cynnig sy’n costio mwy i’w darparu na’r incwm maent yn ei gynhyrchu, yr anoddaf bydd ein sefyllfa yn y dyfodol.

Rydym yn ymroddedig i sicrhau y gall ein holl fyfyrwyr gwblhau eu cwrs. Mae hyn yn golygu, wrth raddio, y byddwch yn cwblhau rhaglen astudio o ansawdd uchel a fydd yn eich galluogi i gyrraedd eich potensial mwyaf yn y byd gwaith.

Ar ôl cwblhau eich astudiaethau, bydd eich cymhwyster yn dal i gael ei gydnabod gan ddarpar gyflogwyr a chyrff proffesiynol, a byddwch yn ymuno â’n cymuned fywiog o dros 250,000 o gyn-fyfyrwyr. Bydd eich cyfleoedd gwaith yn gwella, a bydd gennych y sgiliau i fynd i fyd gwaith a bodloni anghenion cyflogwyr a chymdeithas. Rydym yn glir yn ein hymrwymiad na fydd y newidiadau arfaethedig hyn yn effeithio ar y canlyniadau i raddedigion – rydym yn adnewyddu ac yn cau cyrsiau’n rheolaidd fel rhan o’n busnes fel arfer, ac mae’r holl fecanweithiau ar waith gennym i sicrhau na fydd y trawsnewid hwn yn cael effaith niweidiol arnoch chi na’ch dyfodol.

Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau eich bod yn cael profiad myfyriwr, dysgu, ac addysgu trawsnewidiol yn PDC. Fel sy’n wir am ein holl gyrsiau, bydd ansawdd profiad y myfyriwr yn cael ei fonitro’n parhaus, ac ni ddylai’r newidiadau arfaethedig hyn effeithio ar eich profiad dysgu ac addysgu.

Gallwch godi cwyn ffurfiol drwy’r Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar UniLife.

Mae ddrwg gennym eich bod yn ystyried hyn fel opsiwn. Yn y lle cyntaf, rydym yn argymell eich bod yn siarad â’r Ardal Gynghori, a fydd yn gallu’ch cyfeirio at y cymorth a’r arweiniad perthnasol. Mae gennym gais trosglwyddo cwrs yn y Brifysgol hefyd, pe baech chi’n hoffi archwilio’r opsiwn hwn – mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar UniLife.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai’r diweddariad hwn achosi ansicrwydd. Er ein bod yn ymroddedig i addysgu’r cyrsiau presennol tan eu diwedd, cofiwch fod cymorth ar gael.

I gael cymorth ac arweiniad lles, mae ystod o gymorth cyfrinachol ar gael drwy’r Ardal Gynghori, gan gynnwys cymorth lles a gwasanaeth iechyd meddwl a chwnsela.

MaeTogetherall yn llwyfan digidol iechyd meddwl a lles sydd ar gael am ddim i holl fyfyrwyr PDC. Mae’n gymuned ddiogel ar-lein sydd ar gael 24/7, lle gallwch fynegi’ch hun, defnyddio ystod o offer defnyddiol, a dysgu i reoli’ch lles.

Mae’r Hyb Helpu eich Hun yn rhannu dolenni at adnoddau hunangymorth, offer lles, a chymorth sydd ar gael gan sefydliadau allanol.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd wrth law i gynnig cymorth academaidd a chymorth iechyd a lles i fyfyrwyr os oes angen.