Myfyrwyr Rhyngwladol ac Ewropeaidd
Mae’n hanfodol sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu am eich ffioedd dysgu a’ch costau byw tra byddwch yn astudio yn y DU – oherwydd gall fod yn anodd dod o hyd i gymorth ariannol ar ôl i chi ddechrau astudio.
Dyma sut i ddod o hyd i'ch cyllid a'i reoli. Os oes angen unrhyw gyngor neu arweiniad arnoch, cysylltwch â’n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
Os byddwch yn cael anawsterau ariannoltra byddwch yn astudio – efallai oherwydd newid mewn sefyllfaoedd personol neu wleidyddol, neu am unrhyw reswm arall – mae’n bwysig cysylltu â’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr am gyngor ac arweiniad.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol yn arbennig fod yn wyliadwrus o droseddwyr sy'n ceisio cael mynediad i'w cyfrifon banc - gwnewch yn siŵr eich bod yn cwestiynu unrhyw beth sy'n ymddangos yn anarferol. Byddem yn annog unrhyw fyfyriwr sy'n ofni y gallai ei gyfrif fod wedi'i gamddefnyddio i siarad â'u gwasanaethau cymorth prifysgol, banciau a'r heddlu. Gallwch hefyd ddarllen Canllaw’r Cyngor Prydeinig - Creating Confidence.
- Os oes gennych statws sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE ac wedi byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs gallwch wneud cais am y benthyciad ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth, lwfans myfyrwyr anabl, a grant dibynyddion. Gallwch wneud cais am y cyllid hwn drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ar-lein.
- Os oes gennych statws cyn-sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE a gweithiwr mudol (neu aelod o deulu un) neu blentyn dinesydd Swisaidd ac wedi byw yn y DU, yr UE, yr EAA, Gibraltar neu’r Swistir am 3 blynedd ynghynt gan ddechrau eich cwrs gallwch wneud cais am y benthyciad ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth, lwfans myfyrwyr anabl, a grant dibynyddion. Gallwch wneud cais am y cyllid hwn drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ar-lein.
- Os oes gennych statws cyn-sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE ac wedi byw yn y DU, yr UE, yr EAA, Gibraltar neu’r Swistir am 3 blynedd cyn dechrau cwrs cyn i chi ddechrau eich cwrs gallwch wneud cais am y Benthyciad Ffioedd Dysgu trwy lawrlwytho a ffurflen gais papur ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Gallwch hefyd wneud cais:
- Os ydych yn Ddinesydd Gwyddelig a fydd yn byw ac yn astudio yng Nghymru ac wedi bod yn byw yn y DU, Ynysoedd a/neu Iwerddon am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs neu wedi bod yn byw yn y DU ers 31 Rhagfyr 2020 neu’n gynharach, ac yn byw yn y DU, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- Os ydych chi’n aelod o deulu Dinesydd Gwyddelig neu Berson o Ogledd Iwerddon mae angen i chi fod â statws preswylydd cyn-sefydlog o dan gynllun setliad yr UE a hefyd wedi bod yn byw yn y DU ers 31 Rhagfyr 2020 neu’n gynharach, ac yn byw yn y DU, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Mae yna statws arall a fyddai hefyd yn eich gwneud yn gymwys i gael rhywfaint o arian, er enghraifft os ydych yn blentyn i Weithiwr Twrcaidd, wedi cael 'Calais Absenoldeb' ac ati. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler gwefan eich darparwr cyllid.
Mae Prifysgol De Cymru yn sefydliad sy'n cymryd rhan yn Rhaglen William D. Ford Federal Direct Loan. Mae arian yn cael ei fenthyg gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau yn uniongyrchol i fyfyrwyr trwy eu hysgolion. Os ydych chi'n ddinesydd yr Unol Daleithiau, efallai y gallwch chi gymryd benthyciadau i dalu cost eich astudiaethau.