Mae 'Cyllid Myfyrwyr' yn cyfeirio at y cyllid a allai fod ar gael i fyfyrwyr i helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'u haddysg, fel ffioedd dysgu a threuliau byw. Yn aml, mae'r cyllid hwn ar ffurf benthyciad.

Pryd fydda i'n cael fy nhaliadau?

Bydd eich taliadau Cyllid Myfyrwyr yn cael eu rhyddhau pan fydd eich cwrs yn dechrau, ar ôl i chi gofrestru ar-lein (ac os ydych yn fyfyriwr newydd, mae angen i chi fewngofnodi i Blackboard hefyd).

Heb gael eich benthyciad myfyriwr eto? Edrychwch ar Siart Llif Cyllid Myfyrwyr 2025/26 i weld a oes unrhyw beth y mae angen i chi ei wneud, neu a oes angen i chi gysylltu â’r Ardal Gynghori.

Mae angen i chi ailymgeisio bob blwyddyn academaidd

Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig parhaus o'r sy'n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr y DU, mae angen i chi ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Er mwyn sicrhau bod eich cymorth i fyfyrwyr yn barod ac yn aros amdanoch ar ôl i chi ail-gofrestru mae angen i chi sicrhau bod eich cais wedi'i gwblhau'n llawn erbyn y dyddiad cau a hysbysebwyd.

Beth os byddwch yn methu'r dyddiad cau ar gyfer ailymgeisio?

Gallwch barhau i wneud cais ar ôl y dyddiad cau - ond efallai na fydd eich cais wedi’i asesu'n llawn pan fyddwch yn dychwelyd ym mis Medi.

Os ydych wedi gwneud cais ar ôl y dyddiad cau, gwnewch yn siŵr bod gennych rywfaint o arian parod ar gyfer dechrau'r tymor er mwyn osgoi anawsterau ariannol.

Cysylltwch â Chynghorydd Arian Myfyrwyr os oes gennych unrhyw broblemau

Cysylltwch â'ch corff cyllid myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth am eich hawl/opsiynau cyllid unigol.

- Cymru
- Lloegr
- Gogledd Iwerddon
- Yr Alban
- GIG Cymru

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn derbyn gordaliad?

Gall gordaliad ddigwydd pan fydd eich cyllid myfyriwr eisoes wedi talu benthyciadau neu grantiau ar gyfer costau byw a chostau eraill – fel gofal plant – ac yna’n ailasesu’r swm sy’n ddyledus.

Os bydd swm y grant neu fenthyciad sydd i’w dalu wedi cynyddu ar ôl yr ailasesiad, bydd Cyllid Myfyrwyr yn ailasesu eich cais cyn gynted â phosibl. Bydd eich rhandaliadau grant neu fenthyciad am y flwyddyn yn cael eu cynyddu i adlewyrchu'r cynnydd yn yr hawl i gymorth.

Os bydd yr ailasesiad yn arwain at ostyngiad yn yr hawl i’r grant neu’r benthyciad, bydd y swm a ordalwyd yn cael ei adennill yn llawn o randaliad(au) nesaf y grant neu’r benthyciad hwnnw. Wrth adennill taliad, gall hefyd gynnwys unrhyw grantiau eraill sydd ar ôl i'w talu o fewn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Gordaliad oherwydd gwall Cyllid Myfyrwyr

Os yw Cyllid Myfyrwyr wedi gwneud camgymeriad ac wedi eich asesu’n anghywir – ac nid oedd hyn yn fai arnoch chi – mae’n dal yn rhan o’u rheoliadau i adennill y gordaliad a wnaed. Fodd bynnag, dylai Cyllid Myfyrwyr wedyn ystyried y dull mwyaf priodol o adennill os na allwch wneud yr ad-daliad yn llawn. Gwneir hyn fesul achos a byddem yn eich cynghori i drefnu apwyntiad i siarad â Chynghorydd Arian Myfyrwyr.

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr a gafodd eu cyllid benthyciad cynhaliaeth israddedig drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2010 i 2011 yn gymwys i gael £1,500 o’u dyled myfyrwyr wedi’i chanslo gan Lywodraeth Cymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am canslo benthyciad yn rhannol yng Nghymru.

Os ydych chi'n fyfyriwr yn un o'n Colegau Partner, cyfeiriwch at dudalennau cyngor eich Coleg Partner i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Awgrymiadau i Fyfyrwyr Newydd

Money saving tips from USW students