Ar Leoliad neu’n Astudio Dramor?
I wneud yn siŵr eich bod yn dal i dderbyn taliadau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Loegr, dyma beth sydd angen i chi ei wneud:
Mae hyn yn rhoi gwybod i’ch Tîm Cyllid Myfyrwyr eich bod yn astudio dramor neu ar leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Os oes angen tystiolaeth ysgrifenedig arnynt fod y lleoliad neu’r cyfle i astudio dramor yn rhan o’ch cwrs – a ph’un a yw’n gyflogedig neu’n ddi-dâl – gofynnwch i Dîm Gweinyddol eich Cyfadran.
Mae angen i chi wneud hyn o hyd, er eich bod yn astudio dramor neu ar leoliad gwaith. Os ydych yn gymwys i gael cymorth, caiff hwn ei dalu’n uniongyrchol i’r Brifysgol. Os oes rhaid i chi gyfrannu at y ffioedd eich hun, bydd angen i chi drefnu talu'r rhain i'r Brifysgol o hyd.
Os ydych yn mynychu PDC am lai na 10 wythnos, efallai y codir ffioedd is arnoch ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. Bydd ein Tîm Refeniw yn gallu cadarnhau eich tâl ffi.
Cyn belled â’ch bod wedi dweud wrth eich Tîm Cyllid Myfyrwyr perthnasol eich bod ar leoliad neu’n astudio dramor – a chyhyd â bod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi derbyn eich ffurflen gais am fenthyciad – dylid talu rhandaliadau eich benthyciad myfyriwr i mewn i’ch cyfrif banc enwebedig.
Os ydych ar leoliad, mae faint o gymorth cynhaliaeth sydd ar gael i chi yn dibynnu ar y math o leoliad y byddwch yn ei wneud – yn ogystal â sawl wythnos y byddwch yn mynychu’r Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’n bosibl y byddwch yn derbyn cyfradd is o Fenthyciad Cynhaliaeth:
Cyllid Myfyrwyr Lloegr 2026/27
- Cartref rhieni – £2461
- Llundain – £4607
- Rhywle arall – £3281
Cyllid Myfyrwyr Cymru 2026/27
- Cartref rhieni – £4830
- Llundain – £7350
- Rhywle arall - £5785
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr ar leoliadau di-dâl penodol yn y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol yn gymwys i gael grantiau neu fenthyciadau uwch at gostau byw – yn amodol ar brawf modd – hyd yn oed os yw’r cyfnodau astudio amser llawn yn y flwyddyn academaidd yn llai na 10 wythnos. Gwiriwch gyda’ch darparwr cyllid, neu cysylltwch â ni i weld a yw eich lleoliad yn gymwys, os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych yn cael eich ariannu gan awdurdod gwahanol e.e. SAAS neu SFNI, oherwydd gall cyllid fod yn wahanol.
Cysylltwch â Gweinyddwr eich Cyfadran os hoffech wneud cais am daliad cynharach o’ch cyllid myfyrwyr, fel y gallant gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Gall cymryd rhan mewn profiad byd-eang wella eich rhagolygon cyflogadwyedd, cynyddu eich hyder, a helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau wrth deithio'r byd!
Rydym yn deall bod yna lawer o ffactorau i'w hystyried wrth ystyried cyfnod dramor, ac un o'r rhain yw arian. Mae PDC wedi bod yn llwyddiannus mewn cais am gyllid ar gyfer y rhaglen Taith a chynllun Turing.
Mae'r ddau gynllun ar gael i fyfyrwyr y DU a Rhyngwladol i ddarparu grantiau ariannol i gefnogi cyfnod o weithgaredd dramor o bythefnos hyd at flwyddyn gyfan.
Mae cyllid ychwanegol hefyd ar gael i fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf cefndir difreintiedig a amlinellir gan y cynlluniau cyllido.
Cyswllt: [email protected]