Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailsefyll ac Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd)
MYFYRWYR Learna / Unicaf YN UNIG
Gallwch barhau ar eich cwrs, ond mae gennych broffil cymysg sy'n golygu'r canlynol:
- Mae eich amgylchiadau esgusodol wedi'u cymeradwyo ar gyfer asesiad(au) gyda statws 'Ymgais Gyntaf', a gallwch nawr sefyll y rhain fel pe baech yn gwneud hynny am y tro cyntaf ar y cyfle asesu nesaf sydd wedi'i drefnu (heb ei gapio). Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
- Bydd gofyn i chi ailsefyll yr asesiad(au) gyda statws 'Ailsefyll' yn ystod yr amserlen a ddyrannwyd.
- Ni allwch ymgymryd ag unrhyw fodiwlau a ailadroddir gyda statws 'Ailadrodd' ar hyn o bryd, nes bod eich proffil cam (lefel) cyffredinol wedi'i gadarnhau.
Cofiwch na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailsefyll a/neu ailadrodd. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar y marc pasio mewn unrhyw fodiwl sydd wedi bod yn destun asesiad ailsefyll. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl. Nid yw hyn yn berthnasol i unrhyw fodiwl sydd ag amgylchiadau esgusodol cymeradwy.
Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich cynnydd a'ch astudiaethau parhaus os na fyddwch yn cwblhau'r asesiad gofynnol erbyn y cyfle asesu nesaf sydd ar gael. Os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch, neu os nad ydych wedi cael cadarnhad o'ch amgylchiadau esgusodol:
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: