Cyhoeddir yr holl ganlyniadau drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau. Bydd y gwasanaeth yn dangos eich canlyniadau a gadarnhawyd yn dilyn y byrddau asesu. Drwy glicio ar y radd gyffredinol yn y gwasanaeth, cewch eich cyfeirio at dudalen sy'n ymwneud yn benodol â'ch gradd sy'n rhoi esboniad o'r hyn y mae'r radd a gadarnhawyd yn ei olygu, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dolenni atodol eraill a allai fod o ddefnydd i chi.

Gallwch hefyd weld dadansoddiad o radd a marciau asesiadau’r modiwl trwy ddewis y cyfnod perthnasol e.e., 'Cynnig Cyntaf' neu 'Ail Gynnig' o dan y teitl 'Trosolwg'.

Os hoffech weld rhestr lawn o'r graddau, gweler 'Graddau Gyffredinol' isod.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Llwybr Graddedigion a Chwblhau’r Cwrs

Os ydych wedi llwyddo i basio'ch gradd, bydd y Brifysgol yn mynd ymlaen i gadarnhau hyn gyda UKVI. Byddant yn cael gwybod eich bod wedi cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus fel rhan o'r cyfrifoldebau adrodd ar Lwybr Graddedigion. Os nad ydych yn fodlon â'ch canlyniad ac yn ystyried gwneud apêl academaidd, neu gais am amgylchiadau esgusodol yn dilyn y bwrdd, sy'n golygu y gallai eich canlyniadau newid, cysylltwch â'rTîm Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladolar unwaith.

Llwybr Graddedigion ac Ailsefyll neu Ailadrodd

Os ydych chi ym mlwyddyn olaf astudiaethau Llwybr Graddedigion ac yn bwriadu gwneud cais ar ddiwedd eich cwrs, byddwch yn ymwybodol y gall ailsefyll ac ailadrodd effeithio ar eich gallu i wneud cais llwyddiannus am y Llwybr Graddedigion.

Os ydych yn ailsefyll neu’n ailadrodd, efallai y bydd angen estyniad fisa arnoch. Mewn rhai achosion, gall hyn hefyd olygu nad ydych yn gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion.

Os ydych yn ailsefyll neu’n ailadrodd, cysylltwch â'r tîm Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol trwy[email protected]  cyn gynted ag y bo modd; gallan nhw ddarparu cyngor pellach.

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor:

Graddau Gyffredinol

Parhau - Ailadrodd / Eilyddio Modiwl (RT)
Parhau (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CC)
Parhau (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (CO)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCFA)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COFA)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailadrodd (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCFAREP)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COFAREP)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COFAREP)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailsefyll (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCREFFA)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailsefyll (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COREFFA)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailsefyll ac Ailadrodd (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCFAREFREP)
Parhau a chario’r statws ‘Ymgais Gyntaf’ ymlaen, Ailsefyll ac Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COFAREFREP)
Parhau Cario Ailadrodd (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCREP)
Parhau Cario Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COREP)
Parhau Cario Ailsefyll (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCREF)
Parhau Cario Ailsefyll (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COREF)
Parhau Cario Ailsefyll ac Ailadrodd (Blwyddyn Academaidd Newydd) (CCREFREP)
Parhau Cario Ailsefyll ac Ailadrodd (Yr Un Flwyddyn Academaidd) (COREFREP)
Parhau i’r Traethawd Estynedig (PRODIS)
Parhau, Cario Asesiad (1af) (PZ)
Parhau, Cario Asesiad (2il) (MZ)Pass (PASSCONTINUE)
PASS - Diploma Profiad Cyflogaeth (DEPASS)