Mae’r Bwrdd Asesu wedi cytuno bod eich perfformiad yn awgrymu nad oes unrhyw bosibilrwydd y byddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. O ganlyniad, rydych wedi eich terfynu ac ni allwch barhau i astudio ar eich cwrs mwyach.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am gwrs mewn Prifysgol arall, efallai y gallwch drosglwyddo’r credydau rydych wedi'u hennill. Gallwch gysylltu â’r Tîm Cyn-fyfyrwyr i gael copi o'ch trawsgrifiad ar [email protected]

Cysylltwch â'r Tîm Cyngor Dilyniant i drafod yr opsiynau sydd bellach ar gael i chi. Noder bod Polisi Derbyniadau Prifysgol De Cymru yn datgan nad yw myfyrwyr sydd wedi cael eu terfynu fel arfer yn gallu ailymgeisio i astudio am gyfnod o 12 mis. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Bolisi Derbyniadau Myfyrwyr Prifysgol De Cymru.

Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol, efallai yr hoffech ddarllen y dudalen Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol – Gadael. Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: