Rydym yn aros am wybodaeth gennych a fydd yn galluogi'r Bwrdd Asesu i wneud penderfyniad ar eich cynnydd neu ddyfarniad. Byddwch wedi cael gwybod drwy’r Gwasanaeth Canlyniadau am yr opsiynau sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

Anfonwch neges e-bost at [email protected] yn nodi eich penderfyniad o fewn tri diwrnod gwaith o’ch canlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Bydd methu ag ymateb yn effeithio ar y penderfyniad ynghylch eich dilyniant neu ddyfarniad. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn eich opsiynau, cysylltwch â mi ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: