Parhau Cario Ailsefyll ac Ailadrodd (Blwyddyn Academaidd Newydd)
MYFYRWYR Learna / Unicaf YN UNIG
Gallwch barhau i astudio ar yr un lefel o'ch cwrs yn y flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, mae gennych broffil cymysg sy'n golygu'r canlynol:
- Bydd gofyn i chi ailsefyll yr asesiad(au) gyda statws 'Ailsefyll' yn ystod yr amserlen a ddyrannwyd. Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ailsefyll ynghylch gwneud eich asesiad(au) yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
- Ni allwch ymgymryd ag unrhyw fodiwlau a ailadroddir gyda statws 'Ailadrodd' ar hyn o bryd, nes bod eich proffil cam (lefel) cyffredinol wedi'i gadarnhau.
Cofiwch na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailsefyll a/neu ailadrodd. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar y marc pasio mewn unrhyw fodiwl sydd wedi bod yn destun asesiad ailsefyll. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
Ar ôl cwblhau lefel y cwrs, bydd eich proffil academaidd yn cael ei ystyried, a bydd eich gradd gyffredinol yn cael ei chadarnhau mewn Bwrdd Asesu diweddarach.
Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich cynnydd a'ch astudiaethau parhaus os na fyddwch yn cwblhau'r asesiad gofynnol erbyn y cyfle asesu nesaf sydd ar gael. Os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch:
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: