Gwybodaeth am Ailsefyll
Mae ailsefyll yn golygu eich bod wedi methu modiwl(au) yn gyfan neu'n rhannol. Mae'n ofynnol i chi wneud ail ymgais yn yr elfen(nau) a fethwyd (fel arfer yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf). Noder bod yr elfen ailsefyll hon fel arfer yn ddarn gwahanol o asesiad.
Ar gyfer Rheoliadau Prifysgol De Cymru
Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir
- Ni fyddwch yn gallu cael gradd uwch na Llwyddo neu 40% mewn unrhyw fodiwl a ailasesir (bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi a bydd y modiwl cyfan yn cael ei gapio).
- Os yw'r marc a gewch wrth ailsefyll yn is na'r hyn a gawsoch ar eich ymgais cyntaf, bydd y marc ailsefyll yn dal i gael ei gofnodi.
- Os na fyddwch yn ymgeisio eich asesiad ailsefyll, bydd marc o “0” yn cael ei gofnodi.
- NID yw’r rheol 5 diwrnod gwaith ynghylch cyflwyno’n hwyr yn berthnasol i waith a gyfeiriwyd nac i waith a gyflwynir fel ymgais cyntaf yn ystod cyfnod ailsefyll.
Os byddwch yn methu eto, efallai y cewch ganiatâd i ail-wneud neu amnewid y modiwl cyfan yn dibynnu ar “reoliadau’r Brifysgol a’r Rhaglen”.
Ar gyfer Rheoliadau Prifysgol Cymru Casnewydd
- Ni fyddwch yn gallu ennill gradd uwch na Llwyddo neu D5 mewn unrhyw fodiwl a ailasesir.
Gweler y Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir i gael rhagor o wybodaeth.
Gellir lawrlwytho amserlenni arholiadau ailsefyll o'r dudalen wybodaeth am arholiadau ar adegau perthnasol yn ystod y flwyddyn academaidd. Dylai myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau partner neu ar gyrsiau nad ydynt yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd draddodiadol drafod trefniadau ailsefyll gyda'u cyswllt arferol.
Os oes angen unrhyw ddarpariaethau penodol arnoch (megis cymorth o ran anabledd neu ddyslecsia) ac nad oes gennych Gynllun Cymorth Unigol eisoes ar waith, cysylltwch â'r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia.
Mae gwybodaeth am ailsefyll di-arholiad ar gael ar Blackboard/Moodle. Os nad yw eich gwybodaeth am ailsefyll yno, cysylltwch ag Arweinydd y Modiwl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd golwg ar y wefan yn brydlon gan roi digon o amser i'ch hun gwblhau a chyflwyno'r gwaith gofynnol.
Dylai eich deunyddiau ailsefyll esbonio'n glir beth sydd angen i chi ei wneud. Fodd bynnag, os oes gennych ymholiadau penodol am y modiwl(au), bydd angen i chi gysylltu ag Arweinydd y Modiwl. Os na allwch gysylltu ag Arweinydd y Modiwl yna cysylltwch â'r Ardal Gynghori ar y Campws. Dylai myfyrwyr sy'n astudio mewn Colegau Partner, Sefydliadau Partner neu UNICAF gysylltu â'u cyswllt cwrs arferol.
Dyddiadau cau ar gyfer Ailsefyll Di-arholiad (gan gynnwys traethawd hir)
Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn gwaith cwrs yn dibynnu ar ba Fwrdd Asesu a ystyriodd eich canlyniadau (i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, byrddau mis Mehefin yw hyn). Noder eich bod yn gallu cyflwyno gwaith yn gynharach na'r dyddiad cau ond nid yn hwyrach.
Esboniad o Gyflwyno Gwaith Cwrs Ailsefyll
Cyflwynwch eich gwaith cwrs ailsefyll yn unol â chyfarwyddyd Arweinydd y Modiwl. I'r rhan fwyaf o Gyfadrannau bydd hyn fel arfer drwy Turn-it-in ar Blackboard neu Moodle ond mewn rhai achosion efallai y bydd gofyn i chi ei gyflwyno i Ddesg Derbynfa eich Campws neu'n uniongyrchol i Arweinydd y Modiwl. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag Arweinydd y Modiwl.
Os ydych chi'n postio gwaith cwrs ailsefyll, rhaid iddo gael ei anfon drwy gludiant cofnodedig neu gludwr a rhaid iddo gael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau (ac nid ei bostio ar y dyddiad hwn). Rhaid i chi gadw eich derbynneb postio/cludiant gan mai dyma’r prawf eich bod wedi cyflwyno’r gwaith. Noder na fydd gwaith a anfonir drwy e-bost yn cael ei dderbyn, oni bai mai dyma'r weithdrefn arferol sy’n cael ei defnyddio yn ystod y tymor.
Mae'r Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio yn darparu canllawiau a chymorth un i un ar ystod eang o faterion astudio fel ysgrifennu traethodau, mathemateg ac ystadegaeth, a thechnegau adolygu ac arholiadau. Gall staff bostio deunyddiau sgiliau astudio atoch, rhoi cyngor dros y ffôn neu drefnu apwyntiadau un i un gydag un o'r tiwtoriaid sgiliau astudio.
Mae gan y Llyfrgell gronfa adnoddau o gyn-bapurau arholiad; at ddibenion cyfeirio yn unig y mae’r rhain, ond gallwch wneud copïau.
Bydd dyddiadau ailsefyll arholiadau a'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno gwaith ailsefyll di-arholiad yr un fath â'r rhai a gaiff eu gosod ar gyfer myfyrwyr ar y campws, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod eich gwaith atgyfeirio yn uniongyrchol gyda'ch darlithydd yn eich coleg i sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw brosesau ychwanegol a allai fod ganddyn nhw.
Dylai myfyrwyr gyflwyno gwaith ailsefyll di-arholiad yn unol â chyfarwyddyd eu cyswllt arferol.