Rydych wedi tynnu'n ôl o'ch cwrs. Os hoffech drafod eich penderfyniad i dynnu'n ôl neu opsiynau ar gyfer dychwelyd i Brifysgol De Cymru yn y dyfodol, cysylltwch â'r Ardal Gynghori.

Sylwch y gallai tynnu'n ôl o'ch astudiaethau arwain at oblygiadau o ran ffioedd. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, fe'ch cynghorir i gysylltu â Thîm Cyllid y Brifysgol i gael rhagor o wybodaeth am atebolrwydd ffioedd.

Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol, efallai yr hoffech ddarllen y dudalen Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol – Gadael. Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: