Ymdrechion Cyntaf ac Ailadroddiadau
Mae eich amgylchiadau esgusodol wedi'u cymeradwyo ar gyfer asesiad(au) gyda statws 'Ymgais Gyntaf', a gallwch nawr sefyll y rhain fel pe baech yn gwneud hynny am y tro cyntaf ar y cyfle nesaf (heb ei gapio). Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
Bydd angen ailadrodd modiwl(au) sydd â statws 'Ailadrodd' yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) a ailadroddir:
- Ni fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailadrodd unrhyw fodiwlau. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
- Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailadrodd yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailadrodd yn dal i gael ei gofnodi.
- Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailadrodd modiwl, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.
Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich astudiaethau parhaus os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith cwrs gofynnol neu’n sefyll eich arholiadau.
Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y ddogfen Gwybodaeth Ailadrodd ynghylch rheoliadau Ailadrodd modiwlau. Sylwer, mae modiwlau Ailadrodd yn destun ffi. Os ydych yn cael eich ariannu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylech roi gwybod iddynt am eich statws myfyriwr sy'n ailadrodd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Ailadrodd Rhan o’ch Cwrs – Goblygiadau Cyllido. Gallwch hefyd drafod goblygiadau ariannol a chyllid gyda'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ymgais Gyntaf ar gyfer ymgymryd â'ch asesiad(au) sydd wedi’u cymeradwyo gan amgylchiadau esgusodol.
- Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:
- Ardal Gynghori
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: