Ymgais Gyntaf
Mae eich amgylchiadau esgusodol wedi'u cymeradwyo ar gyfer asesiad(au) gyda statws 'Ymgais Gyntaf', a gallwch nawr sefyll y rhain fel pe baech yn gwneud hynny am y tro cyntaf ar y cyfle nesaf. Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl. Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich cynnydd os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith cwrs gofynnol neu’n sefyll eich arholiadau.
Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?
- Os nad ydych wedi cael cadarnhad o’ch amgylchiadau esgusodol, cysylltwch â’r Ardal Gynghori.
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ymgais Gyntaf ar gyfer ymgymryd â'ch asesiad(au) sydd wedi’u cymeradwyo gan amgylchiadau esgusodol.
- Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:
- Ardal Gynghori
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: