Ailsefyll ac Ailadrodd
Bydd gofyn i chi ailsefyll yr asesiad(au) sydd â statws 'Ailsefyll' yn ystod y cyfnod ailsefyll.
Bydd angen i chi ailadrodd y modiwlau sydd â statws 'Ailadrodd' yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) ailsefyll ac ailadrodd:
- Ni fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailsefyll a/neu ailadrodd. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
- Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailadrodd / ailsefyll yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailadrodd / ailsefyll yn dal i gael ei gofnodi.
- Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailadrodd / ailsefyll asesiad, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.
- NID YW'R rheol 5 diwrnod gwaith ar gyfer cyflwyno gwaith yn hwyr yn berthnasol i waith ailsefyll neu waith a gyflwynir fel ymgais gyntaf yn ystod cyfnod ailsefyll.
Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ailsefyll ynghylch gwneud eich asesiad(au) yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y ddogfen Gwybodaeth Ailadrodd ynghylch rheoliadau Ailadrodd modiwlau. Sylwer, mae modiwlau Ailadrodd yn destun ffi. Os ydych yn cael eich ariannu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylech roi gwybod iddynt am eich statws myfyriwr sy'n ailadrodd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Ailadrodd Rhan o’ch Cwrs – Goblygiadau Cyllido. Gallwch hefyd drafod goblygiadau ariannol a chyllid gyda'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
- Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiadau.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:
- Ardal Gynghori
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: