Gallwch barhau i astudio ar yr un lefel â’ch cwrs yn y flwyddyn academaidd nesaf. Ar ôl cwblhau lefel y cwrs, bydd eich proffil academaidd yn cael ei ystyried mewn Bwrdd Asesu.

Bydd gofyn i chi ailgofrestru ar eich cwrs. Byddwch chi’n cael e-bost i'ch cyfrif myfyriwr yn cadarnhau eich bod chi’n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar y wefan Ymrestru.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: