Mae eich amgylchiadau esgusodol wedi'u cymeradwyo ar gyfer asesiad(au) gyda statws 'Ymgais Gyntaf', a gallwch nawr sefyll y rhain fel pe baech yn gwneud hynny am y tro cyntaf ar y cyfle nesaf. Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi ailsefyll yr asesiad(au) gyda statws 'Ailsefyll' yn ystod y cyfnod ailsefyll.

Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) ailsefyll:

  • Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl mewn unrhyw fodiwl lle rydych yn ailsefyll asesiad. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
  • Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailsefyll yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailsefyll yn dal i gael ei gofnodi.
  • Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailadrodd modiwl, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.
  • NID YW'R rheol 5 diwrnod gwaith ar gyfer cyflwyno gwaith yn hwyr yn berthnasol i waith ailsefyll neu waith a gyflwynir fel ymgais gyntaf yn ystod cyfnod ailsefyll.

Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd goblygiadau o ran eich astudiaethau parhaus os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith cwrs gofynnol neu’n sefyll eich arholiadau.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

  • Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ymgais Gyntaf ar gyfer ymgymryd â'ch asesiad(au) sydd wedi’u cymeradwyo gan amgylchiadau esgusodol a’r Wybodaeth Ailsefyll ynghylch ymgymryd â'ch asesiadau ailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: