Parhau - Ailadrodd / Eilyddio Modiwl
Gallwch symud ymlaen i ran nesaf eich cwrs ond bydd gofyn i chi ailadrodd (neu eilyddio) modiwl yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) a ailadroddir (eilyddir):
- Ni fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailadrodd (eilyddio) unrhyw fodiwlau. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
- Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailadrodd yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailadrodd yn dal i gael ei gofnodi.
- Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailadrodd asesiad, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.
Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?
- Rydym yn eich cynghori i ddarllen y ddogfen Gwybodaeth Ailadrodd ynghylch rheoliadau Ailadrodd modiwlau. Sylwer, mae modiwlau Ailadrodd yn destun ffi. Os ydych yn cael eich ariannu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylech roi gwybod iddynt am eich statws myfyriwr sy'n ailadrodd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Ailadrodd Rhan o’ch Cwrs – Goblygiadau Cyllido. Gallwch hefyd drafod goblygiadau ariannol a chyllid gyda'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
- Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).
- Bydd gofyn i chi ailgofrestru ar eich cwrs. Byddwch chi’n cael e-bost i'ch cyfrif myfyriwr yn cadarnhau eich bod chi’n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar y wefan Ymrestru.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:
- Ardal Gynghori
- Myfyrwyr Learna - Cysylltwch â [email protected]
- Myfyrwyr Unicaf - Cysylltwch â [email protected]
Cymorth i'n myfyrwyr
Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.
Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor:
Dolenni a allai fod yn ddefnyddiol:
Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr
Gwybodaeth am Ailsefyll