MYFYRWYR Learna / Unicaf YN UNIG

Gallwch barhau ar eich cwrs. Fodd bynnag, ni allwch ymgymryd ag unrhyw fodiwlau a ailadroddir gyda statws 'Ailadrodd' ar hyn o bryd, nes bod eich proffil cam (lefel) cyffredinol wedi'i gadarnhau.

Cofiwch na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl wrth ailadrodd unrhyw fodiwlau. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar y marc pasio. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.

Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich cynnydd a'ch astudiaethau parhaus os na fyddwch yn cwblhau'r asesiad gofynnol erbyn y cyfle asesu nesaf sydd ar gael. Os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor:

Dolenni a allai fod yn ddefnyddiol:

Apeliadau Academaidd

Ardal Gynghori

Amgylchiadau Esgusodol