Roedd gennych amgylchiadau esgusodol cymeradwy ar gyfer yr asesiad(au) gyda statws 'Ymgais Gyntaf'. Mae'n ofynnol i chi gwblhau'r rhain, fel pe baech yn gwneud am y tro cyntaf, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Sylwch, os ydych eisoes yn ailadrodd yr asesiad(au), bydd y modiwlau’n cael eu capio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl. Efallai y byddwch yn gallu cwblhau modiwlau ychwanegol yn y flwyddyn academaidd nesaf, a bydd hyn yn cael ei gytuno a’i gadarnhau gydag Arweinydd eich Cwrs.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

  • Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ymgais Gyntaf ar gyfer ymgymryd â'ch asesiad(au) fel Ymgais Gyntaf yn y sesiwn academaidd nesaf.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).
  • Bydd gofyn i chi ailgofrestru ar eich cwrs. Byddwch chi’n cael e-bost i'ch cyfrif myfyriwr yn cadarnhau eich bod chi’n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar y wefan Ymrestru.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: