Gallwch symud ymlaen i ran nesaf eich cwrs. Fodd bynnag, gan na wnaethoch chi basio'r asesiad(au) ailsefyll a wnaethoch yn ystod y cyfnod ailsefyll, bydd yr asesiad(au) yn cael ei gario / eu cario i mewn i'ch blwyddyn astudio nesaf fel asesiad ailsefyll.

Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) ailsefyll:

  • Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl mewn unrhyw fodiwl lle rydych yn ailsefyll asesiad. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.
  • Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailsefyll yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailsefyll yn dal i gael ei gofnodi.
  • Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailsefyll modiwl, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.
  • NID YW'R rheol 5 diwrnod gwaith ar gyfer cyflwyno gwaith yn hwyr yn berthnasol i waith ailsefyll neu waith a gyflwynir fel ymgais gyntaf yn ystod cyfnod ailsefyll.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

  • Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ailsefyll ynghylch gwneud eich asesiad(au) yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).
  • Bydd gofyn i chi ailgofrestru ar eich cwrs. Byddwch chi’n cael e-bost i'ch cyfrif myfyriwr yn cadarnhau eich bod chi’n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar y wefan Ymrestru.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio diwethaf, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r:

Cymorth i'n myfyrwyr

Gall derbyn eich canlyniadau fod yn gyfnod llawn straen, ac mae gennym gyfoeth o gymorth ar gael trwy’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol (ac yn allanol) os oes angen cymorth, eglurhad a/neu gyngor arnoch ar ôl cael eich canlyniadau.

Ewch i'r canlynol am gymorth a chyngor: