Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

D33: ASTUDIAETHAU CERDDORIAETH, DRAMA, DAWNS A'R CELFYDDYDAU PERFFORMIO

Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
A man is sat on the floor outside of a beige stone building adding finishing touches to a metal sculpture.

Uned Ymchwil y Diwydiannau Creadigol yw un o'r rhai mwyaf amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r Uned wedi manteisio’n strategol ar ei chanolfan yng nghanol Caerdydd, un o ganolfannau creadigol mwyaf y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, i sefydlu partneriaethau cydweithredol mawr gyda'r diwydiannau creadigol a llunwyr polisi. 

Gan fod yr Uned yn rhoi pwyslais ar gydweithio â diwydiant wrth wneud gwaith ymchwil, mae’n golygu ei bod yn rhoi arweinyddiaeth ac arbenigedd ddibynadwy i’r diwydiannau creadigol a llunwyr polisi sy'n ceisio hyrwyddo rôl creadigrwydd ym mywyd economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan yr Uned gryfderau arbennig ym meysydd y celfyddydau ac iechyd; clystyrau creadigol a chyfryngau sgrin; ac ymarfer-ymchwil. 

Uchafbwyntiau’r Fframwaith

  • Mae 75% o’r ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
  • Mae 67% o effaith ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd (4*)
  • Cydradd gyntaf yng Nghymru am effaith o blith pedair prifysgol – yn seiliedig ar 4*/3*  

Canlyniadau’r Unedau Asesu

 
% 4*
% 3*
% < 2*
Cyffredinol
40 35 25
Allbynnau
29.7 28.1 42.2
Effaith
66.7 33.3 0.0
Amgylchedd
37.5 62.5 0.0

I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk.