Mis Hanes Anabledd
Laura Martin-Simpson
Cynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mis Hanes Anabledd
Rwy'n profi anableddau anweladwy. Mae Mis Hanes Anabledd yn gyfnod pwysig i mi fyfyrio ar brofiadau bywyd pobl ag anableddau trwy gydol hanes ac yn y presennol. Gan gofio'r rhai sydd wedi ymladd dros degwch o'n blaen ni.
Er fy mod yn credu bod dathlu gwahaniaethau a diwylliannau croestoriadol, chwalu’r rhwystrau a stigmâu, byw a gweithio o fewn y model cymdeithasol o anabledd, mae angen i'r rhain fod yn gyfrifoldeb dyddiol i ni i gyd. Mewn byd sy’n dangos ffafriaeth tuag at bobl abl sy’n seiliedig ar fodel meddygol o anabledd, mae’n hanfodol cofio nad yw gwahaniaeth yn golygu diffyg.