Pan ddaw’r gair anabledd i’m meddwl i, mae’n golygu gallu. Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn anabl oherwydd nad ydw i. Mae bod yn Niwroamrywiol yn dda iawn - mae'n golygu bod gen i alluoedd nad oes gan bobl niwronodweddiadol eraill. Mae Mis Hanes Anabledd yn bwysig i mi oherwydd bob dydd rwy'n deffro ac yn siarad, yn ymladd, ac yn codi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl eraill fel fi.
Mae yna rai dyddiau sy’n anodd iawn bod fy hun. Yn 2023, ddylai ddim bod yn anodd bod fy hun, ond rydyn ni i gyd yn wynebu'r heriau hyn bob dydd. Dydy cael diagnosis o Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig ddim yn golygu na allaf wneud pethau, mae'n golygu bod angen rhywfaint o gefnogaeth arnaf er mwyn cyrraedd lle rydw i'n mynd, ac rydw i bellach ar fin cyflawni fy ngradd mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn PDC! Mae bod ag anabledd yn hynod o bwysig, a gyda’n gilydd byddaf yn gweithio i barhau i godi ymwybyddiaeth – byddaf bob amser yn siarad am Niwroamrywiaeth oherwydd ei fod yn bwysig i mi.
Mewn byd sy’n ddigon anodd fel y mae – byddaf yn parhau i siarad am bwy ydw i a chodi ymwybyddiaeth o’r galluoedd sydd gen i!