Ein nod yw meithrin diwylliant lle rydym yn wynebu anghydraddoldebau a dathlu amrywiaeth trwy lens groestoriadol. Creu amgylchedd cynhwysol lle gall myfyrwyr a chydweithwyr wir deimlo fel nhw eu hunain a lle caiff pob person ei drin ag urddas, tegwch a pharch.
Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd rydym yn gweithredu fel prifysgol. Rydym wedi nodi chwe phrif amcan sefydliadol fel rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024:
Cyhoeddir Adroddiadau Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn. Cynhyrchir adroddiad blynyddol ar wahân gan bob sefydliad yng Ngrŵp PDC - Coleg Merthyr Tudful a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, cysylltwch â: [email protected].
Ym mis Medi 2020, cadarnhaodd PDC ei hymrwymiad i symud ymlaen â Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE. Mae’r Siarter hon yn darparu fframwaith y mae sefydliadau Addysg Uwch y DU yn ei ddefnyddio i ddangos eu hymrwymiad i ddileu rhwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n atal cydweithwyr a myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethig rhag llwyddo.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ennill statws Prifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i’w champysau. Sefydlwyd cynllun Prifysgolion Noddfa yn 2017 gan y City of Sanctuary, elusen genedlaethol sy’n gweithio i ddarparu mannau diogel i bawb. Nod y cynllun yw ysbrydoli a chefnogi prifysgolion i fabwysiadu diwylliant ac arfer o groeso o fewn eu sefydliadau eu hunain, yn eu cymunedau ehangach, ac ar draws sector Addysg Uwch y DU.
Cydnabuwyd Prifysgol De Cymru am ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd drwy ennill gwobr Efydd Athena SWAN. Athena SWAN yw siarter rhywedd Advance HE, ac mae’n cydnabod y camau a gymerwyd gan Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) mewn perthynas â materion cydraddoldeb rhywedd.
Ymunodd PDC â Chynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru yn 2016. Nod y rhaglen i gyflogwyr yw sicrhau bod yr holl gydweithwyr LGBTQ+ yn cael eu derbyn yn ddieithriad yn y gweithle. Drwy fod yn aelod o’r rhaglen hon, mae Stonewall yn rhannu llyfrgell o ganllawiau ymchwil ac arfer gorau â ni, yn ein helpu i gynllunio ein blaenoriaethau, yn rhoi adborth i ni ar ein mentrau ac yn adolygu ein polisïau i sicrhau eu bod yn gynhwysol o LGBTQ+.
Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall y DU yw'r offeryn meincnodi i gyflogwyr fesur eu cynnydd ar gynhwysiant lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle. Dyrchafwyd Prifysgol De Cymru i’r 24ain safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2020 - cafodd PDC hefyd ei henwi fel y Cyflogwr Traws Gorau gan Stonewall yn 2020.
Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n golygu cymryd camau i wella'r ffordd yr ydym yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Mae'r cynllun yn helpu cyflogwyr i dynnu o'r gronfa ehangaf bosibl o dalent a gwella morâl gweithwyr trwy ddangos eu bod yn trin pob gweithiwr yn deg.
Er mwyn sicrhau bod ein gweithlu'n gynrychioliadol, ein nod yw casglu a monitro data amrywiaeth yr holl gydweithwyr, ymgeiswyr am swyddi, dyrchafiadau, tâl, cwynion, disgyblaeth a hyfforddiant. Mae gwaith tebyg yn digwydd ar gyfer myfyrwyr