Mae'r cwrs MA CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda, neu'n bwriadu gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae eu datblygiad a'u gweithrediad cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu heffeithio'n andwyol, neu sydd mewn perygl o gael eu heffeithio gan anawsterau iechyd meddwl.
Mae'r cwrs yn unigryw yn yr ystyr ei fod yn darparu llwybr anghlinigol i ymarferwyr, rheolwyr ac ymchwilwyr cyffredinol a mwy arbenigol ddatblygu eu gwybodaeth am CAMH mewn cyd-destun eang. Dyma'r unig gwrs o'i fath yng Nghymru ac un o ychydig iawn o gyrsiau tebyg sydd ar gael yn Lloegr.
Mae'r cwrs CAMH hwn yn datblygu gweithwyr proffesiynol gwybodus a myfyriol sy'n gallu tynnu ar arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn ffyrdd a fydd yn effeithio ar y gweithle ac ar ganlyniadau i'r plant a'r bobl ifanc yn y gwasanaethau hynny.
Fe'i cynlluniwyd i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol ac yn bwysicaf oll eu gallu i feddwl yn feirniadol. Mae'r cymhwyster ôl-raddedig hwn yn CAMH yn cynnig cyfle i chi ddysgu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o ystod o gefndiroedd proffesiynol a chefndiroedd amrywiol mewn cyd-destun cefnogol iawn.
Sylwch, oherwydd y niferoedd uchel o geisiadau a dderbyniwyd, nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau newydd gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno dechrau'r cwrs hwn ym mis Ionawr neu Chwefror 2023. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr yn y DU neu'r UE yn dal i gael eu derbyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan Ryngwladol. Bydd unrhyw geisiadau rhyngwladol newydd a dderbynnir ar gyfer derbyniadau Ionawr/Chwefror 2023 yn cael eu tynnu’n ôl.
Fodd bynnag, gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais i astudio'r cwrs hwn o fis Medi 2023. Er nad oes dyddiad cau penodol i wneud cais, byddem yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl.
2024 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
Rhan amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
2025 | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
Llawn amser | 1 flwyddyn | Medi | Dinas Casnewydd | C | |
Rhan amser | 3 blynedd | Medi | Dinas Casnewydd | C |

Mae ein Campws Casnewydd yng nghanol y ddinas, yn edrych dros yr Afon Wysg. Dyma un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.