/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/73-outside-shots/student-life-outside-shots-treforest-52725-1.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chefnogaeth o’r radd flaenaf i gefnogi pob prentis. Croesewir adborth ar ddarpariaeth y Brifysgol, fel bod modd datblygu a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael yn barhaus. Mae Cyflogwyr Prentisiaeth yn bartneriaid allweddol o ran galluogi’r Brifysgol i ddarparu cyfleoedd dysgu gwell, ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad at sicrhau profiadau dysgu rhagorol i bob prentis.
Lawrlwytho’r polisi hwn.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gynnal diogelwch a lles plant ac oedolion agored i niwed. Mae’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r polisi hwn yn deillio o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Plant 2004, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ‘Canllaw Dyletswydd PREVENT: Canllaw i awdurdodau penodedig yng Nghymru a Lloegr ar y ddyletswydd a nodir yn Neddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 i ystyried yr angen i atal pobl rhag cael eu tynnu mewn i derfysgaeth’. Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i awdurdodau penodedig, sy’n cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, gydymffurfio. Mae’r Protocol hwn yn berthnasol i bob aelod staff a gyflogir yn uniongyrchol gan Brifysgol De Cymru, Gwasanaethau Proffesiynol a Chymorth Cyf. Prifysgol De Cymru, a sefydliadau partner sy’n gyfrifol am addysgu ein myfyrwyr a’n prentisiaid.
Lawrlwytho’r polisi PREVENT.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chymorth o’r radd flaenaf i’w myfyrwyr; fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod gennych bryderon am ddarpariaeth eich cwrs academaidd a/neu wasanaethau perthnasol. Dyma’r camau y gallwch eu rhoi ar waith os bydd gennych bryderon.
Mae Prentisiaethau a Ariennir gan y Llywodraeth yn bartneriaeth dair-ffordd rhwng Prifysgol De Cymru, y Cyflogwyr a’r Prentisiaid, felly mae dealltwriaeth glir o rolau penodol a chyfrifoldebau pob parti yn hanfodol er mwyn rheoli iechyd a diogelwch o fewn y cynllun. Mae’r weithdrefn hon yn amlinellu cyfrifoldebau amrywiol pob parti, ac yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar reoli iechyd a diogelwch Prentisiaid yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch cyffredinol y Brifysgol.
Lawrlwytho’r weithdrefn iechyd a diogelwch.
Yn PDC, rydym ar daith gyda’n gilydd at greu mannau cyfartal i bawb, lle does dim yn ein diffinio. Drwy ddwyn ysbrydoliaeth gan ein myfyrwyr a’n cymuned, rydym yn taclo stigmas ac yn gwaredu rhwystrau. Byddwn yn cyflawni hyn drwy synnwyr a rennir o berthyn, a chyd-gynhyrchu fel teulu PDC.
Gweld ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
CYSYLLTU Â NI
FFONIWCH
Prentisiaethau
01443 482203
Ymholiadau Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig
03455 76 77 78
Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol
01443 654450
E-BOST
Ymholiadau Cyffredinol yn y DU
Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol
Israddedig: [email protected]
Ôl-radd: [email protected]