MA Ffilm
Mae’r cwrs MA Ffilm yn PDC yn cynnig llwybrau arbenigol wedi'u teilwra i wahanol agweddau ar wneud ffilmiau, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar ddisgyblaeth benodol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
Archebwch Digwyddiad Agored Pam astudio gradd ôl-raddedig?
Cael astudio yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru sy’n gartref i ddiwydiant ffilm a theledu llewyrchus, gan gynnwys Bad Wolf Studios, Great Point Seren Studios a BBC Cymru, lle mae rhaglenni gan gynnwys Doctor Who ac His Dark Materials yn cael eu ffilmio.
Dewiswch y llwybr cywir i chi
Mae ein gradd MA Ffilm wedi'i rhannu'n chwe llwybr gwahanol, gan eich galluogi i astudio eich maes arbenigol a mireinio eich sgiliau.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Llwyddiant i Fyfyrwyr Ffilm ac Animeiddio yng Ngwobrau RTS Cymru
Mae myfyrwyr a graddedigion Ffilm ac Animeiddio PDC wedi sicrhau wyth gwobr fawreddog yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru (RTS), gan ddathlu creadigrwydd, arloesedd ac adrodd straeon wrth wraidd teledu Cymru. Roedd eu prosiectau arobryn yn cwmpasu adloniant, drama, comedi ac adrodd straeon ffeithiol, gan danlinellu ymrwymiad y brifysgol i feithrin talent greadigol.
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.