Ddim yn rhy hwyr i wneud cais

Rhestr Wirio Clirio

Mae’r broses Clirio yn agor ym mis Gorffennaf. I'ch cefnogi trwy'r broses, rydym wedi llunio rhestr wirio i'ch helpu i baratoi.

Gwnewch gais ar-lein Ffoniwch: 03455 76 06 06
Students studying on a laptop and talking.

Nid oes rhaid i Glirio fod yn straenus. Dilynwch ein rhestr wirio syml i'ch tywys trwy'r broses ymgeisio.


Dod o hyd i'ch cwrs

Dylech feddwl am Glirio fel eich cyfle i archwilio'ch holl opsiynau – weithiau gall y cwrs perffaith fod yn rhywbeth nad ydych wedi'i ystyried eto, felly mae'n bwysig cadw meddwl agored. Efallai yr hoffech wneud rhestr fer o'r holl bethau sydd bwysicaf i chi, fel pynciau, dulliau addysgu, lleoliadau neu ddulliau asesu. 

Cyrsiau sydd ar gael yn PDC

Sgwrsio gyda ni 

Ffoniwch ein llinell gymorth Clirio ar 03455 76 06 06. Gwnewch yn siŵr bod gennych ganlyniadau eich arholiadau, rhif UCAS (os oes gennych un), a'ch dewis cwrs yn barod pan fyddwch chi'n ein ffonio. Byddwn yn eich helpu i wirio gofynion mynediad ac efallai hyd yn oed yn cynnig lle i chi ar unwaith.

Gwirio eich mewnflwch 

Ar ôl i chi wneud cais trwy Glirio, cadwch lygad ar eich e-byst am ddiweddariadau pwysig gan gynnwys manylion cyfweliad neu'ch e-bost cadarnhau os ydy popeth yn barod gyda chi. 

Peidiwch â chynhyrfu

Os nad yw'ch graddau fel yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, nid oes angen cynhyrfu. Gallwn eich tywys trwy opsiynau cwrs perthnasol eraill sy'n addas i chi - oni bai ein bod eisoes wedi anfon cynnig amgen atoch. Mae gennych chi'r cyfle o hyd i astudio o fis Medi.

Beth yw cynnig amgen?
Fashion student sitting at a desk using a sewing machine.

Dewis y cwrs cywir

Os oes angen help i wneud y penderfyniad cywir, mae ein canllaw yn cynnig awgrymiadau ymarferol i'ch tywys i'r llwybr iawn i chi.

CYCHWYN ARNI

Dechreuwch baratoi ar gyfer mis Medi. Yma gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau yn y brifysgol.

Cychwyn Arni