Gan ymchwilio i arferion ac egwyddorion craidd rheoli cadwyn gyflenwi, mae'r cwrs hwn yn pwysleisio integreiddio logisteg, caffael a gweithrediadau’n ddi-dor i yrru effeithlonrwydd gweithredol, cost-effeithiolrwydd, a chynaliadwyedd hirdymor ar draws cadwyni cyflenwi byd-eang.
Ewch gam ymlaen yn eich gyrfa wrth i chi ennill amrywiaeth o sgiliau allweddol gan gynnwys technegau arolygu, systemau monitro a chymhwyso systemau gwybodaeth ddaearyddol, egwyddorion cadwraeth a systemau deddfwriaethol.
Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o ddarparu cyrsiau rheoli gofal iechyd o ansawdd uchel ac mae wedi darparu rhaglenni ôl-raddedig tebyg yn llwyddiannus ers dros 20 mlynedd.
Y radd MSc mewn Rheoli Prosiectau yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei hachredu'n swyddogol gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM). Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ar gyfer darllen mewn prosiectau, gan gynnwys agweddau theori a dysgu, ac mae wedi'i mapio yn erbyn rhai perthnasol.
Byddwn yn eich grymuso â'r sgiliau a'r wybodaeth i helpu sefydliadau i ganfod a mynd i'r afael â seiberdroseddu, yn ogystal â pharatoi ar ei gyfer. Trwy ddysgu ymarferol wedi'i ategu gan arbenigedd ein staff, byddwch yn dysgu sut i reoli risg ac adeiladu cynlluniau diogelwch cadarn sy'n cadw gweithrediadau i fynd a bygythiadau dan reolaeth.
Rydym yn credu bod agor meddyliau yn agor drysau. Dyna pam mae ein gradd arloesol BSc Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan y BPS, yn cyfuno dysgu ymarferol ag amrywiaeth eang o gyfleoedd ar leoliad a phrosiectau mewn bywyd go iawn. Mae’r cyfan yn rhoi’r profiad y mae ei angen ar ein graddedigion Seicoleg i gael dechrau llwyddiannus i’w gyrfaoedd.
Byddwch yn gweithio gyda’n partneriaid allanol ar friffiau byw a phrosiect traethawd hir cymhwysol, gan roi’r cyfle i chi ysbrydoli newid gwirioneddol yn ystod eich astudiaethau.
Mae’r cwrs MA mewn Seicotherapi Celf yn PDC, sy’n gwrs tair blynedd rhan-amser, yn rhoi’r hyfforddiant, y sgiliau a’r profiad clinigol sylfaenol i chi ddod yn Seicotherapydd Celf cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Mae'r cwrs MSc mewn Therapi Chwarae yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol yn ymwneud â therapi chwarae, gan dynnu ar brofiad a sgiliau therapyddion chwarae cymwys, yn ogystal â therapyddion creadigol eraill. Mae tîm y cwrs yn cymryd rhan weithredol mewn ymarfer clinigol, a gwaith ymchwil a chyhoeddi cysylltiedig.
Enillwch brofiad ymarferol wrth i chi baratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig a gwerth chweil mewn diwydiant lle nad oes dau eiddo yr un fath. Dysgwch gan arbenigwyr amgylchedd adeiledig a defnyddiwch dechnoleg arloesol, wrth i chi archwilio popeth o brisio eiddo i wneud penderfyniadau masnachol.
Datblygwch seilwaith y dyfodol gyda'n gradd achrededig. Byddwch yn tyfu eich arbenigedd a'ch sgiliau trwy ein dulliau addysgu arloesol a thechnolegau digidol gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM), dronau, a chipio safle diffiniad uchel.
Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dwysáu eu gwybodaeth, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.
Mae’r llwybr arbenigol hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol yng Nghymru ar bob lefel sy’n dymuno canolbwyntio ar arweinyddiaeth ar draws y system addysg, ymgysylltu ag ymchwil a gyrru newid sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.
Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.
Hogwch eich sgiliau a datblygwch wybodaeth hanfodol ym maes adeiladu, lle byddwch chi'n dysgu popeth, o adeiladu ac adnewyddu i ddymchwel. Mae'r HNC rhan-amser hwn wedi'i gynllunio i gyd-fynd â gwaith ac mae'n cynnwys y mewnwelediadau diweddaraf i’r sector gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd y diwydiant.
Adeiladwch eich sgiliau a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm, teledu, effeithiau gweledol a gemau gyda'r cwrs ymarferol a thechnegol hwn.
Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.
Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.
Mae ein gradd Heddlua Proffesiynol wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn ac wedi darparu addysg i’r heddlu ers degawdau. Gan adeiladu ar hynny, fe gynlluniwyd y cwrs hwn i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y sector heddlua.
Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.