Bioleg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Astudiaeth o bethau byw, o ficro-organebau bach i anifeiliaid mawr, eiconig yw bioleg. Byddwch yn archwilio'r wyddoniaeth hanfodol hon yn fanwl, gan ddatgelu'r cysylltiadau a'r patrymau sy'n gwneud bywyd ar y Ddaear mor ddiddorol.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
C10F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£5,760*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Ymdrochwch yn y prosesau sy'n gyrru bywyd, gan gynnwys esblygiad, ffisioleg, bioleg foleciwlaidd ac ecoleg. Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau i ofyn cwestiynau, datrys problemau a gwneud synnwyr o'r byd naturiol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs BSc (Anrhydedd) mewn Bioleg yn cynnig dull gweithredu cyfannol ym maes bioleg. Er bod yr elfennau eraill a gynigiwn yn y maes pwnc yn fwy arbenigol, mae cwrs bioleg eang yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio'r pwnc yn llawn, canfod eu hangerdd a chyfeirio eu llwybr yn y brifysgol tuag at nifer o yrfaoedd posibl.
Achredwyd gan
- Cwrs Achrededig Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
Llwybrau Gyrfa
- Ymchwilydd MSc/PhD
- Ecolegydd
- Dadansoddwr Labordy
- Athro Gwyddoniaeth
Sgiliau a addysgwyd
- Dadansoddi'n feirniadol a datrys problemau
- Cyfathrebu gwyddonol
- Rheoli Prosiectau
- Cynwysoldeb a gwaith tîm
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Cwrs
Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio bioleg, cemeg, a heriau'r byd go iawn, yn meithrin sgiliau ymarferol, academaidd, a gwaith tîm, ac yn datblygu chwilfrydedd, hyder, a galluoedd datrys problemau, i baratoi ar gyfer astudiaeth a chreu argraff yn y dyfodol.
Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Gwyddor Bywyd: Sylfeini mewn Bioleg
Byddwch yn archwilio egwyddorion biolegol craidd o foleciwlau i organebau cyfan, yn datblygu sgiliau labordy ymarferol, ac yn defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn i gefnogi eich dysgu a'ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yn y gwyddorau bywyd.
Cemeg ar Waith: Gwyddoniaeth Sy'n Llunio'r Byd
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gysyniadau cemegol allweddol, o foleciwlau i adweithiau, yn meithrin sgiliau labordy ymarferol, ac yn ennill profiad hanfodol i gefnogi eich astudiaethau gwyddonol yn y dyfodol.
Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Dysgu ac addysgu
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.
Sut byddwch chi'n cael eich asesu
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Lleoliadau
Ar ôl eich Blwyddyn Sylfaen, wrth i chi symud ymlaen i'ch gradd, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn modiwl Ymarfer a Lleoliad Proffesiynol dewisol, gan roi profiad gwaith i chi gyda chyflogwr neu ar leoliad â chyflogwr wedi’i efelychu. Gallwch naill ai weithio mewn sefydliad yn eu gweithle neu wneud lleoliad wedi’i efelychu trwy weithio ar brosiect byw neu friff ar-lein.
Byddwn yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd lleoliadau, ond bydd angen i chi hefyd roi amser ac egni i ddod o hyd iddynt. Cefnogir y broses hon gan ein tîm gwasanaethau proffesiynol.
Cyfleusterau
Mae labordai George Knox yn rhan o fuddsoddiad gwerth £15m mewn gwyddoniaeth i'r
Brifysgol, sy'n golygu y byddwch yn cael eich addysgu mewn lleoedd newydd gyda chyfarpar da. Mae'r rhain yn ymuno ag adeilad Gradd II rhestredig Alfred Russell Wallace a ddefnyddir at ddibenion addysgu hefyd.
Byddwch yn elwa ar sawl labordy gyda chyfarpar da ar gyfer gwaith ymarferol a gwaith
prosiect. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:
- Labordy microbioleg sy'n gallu trafod pathogenau (categori 2)
- Labordy bioleg foleciwlaidd ar gyfer ynysu a dadansoddi DNA
- Microsgopau taflunio yn y labordai microbioleg a microsgopeg i addysgu grwpiau
- Labordai bioleg cyffredinol ar gyfer addysgu, gan gynnwys amrywiaeth o sgerbydau ar gyfer anatomeg gymharol
- Ystafelloedd cyfrifiaduron gyda meddalwedd GIS arbenigol i gefnogi eich dysgu
Pam PDC?
Pam PDC?
AR Y BRIG YNG NGHYMRU Mae Bioleg ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran ansawdd addysgu.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025Gofynion mynediad
pwynt tariff UCAS: 48
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD, 48 pwynt Tariff UCAS i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth perthnasol ond heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol.
- Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio mewn pwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
- Safon T: Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Fel rheol, mae'r Brifysgol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£5,760
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Cwrs maes preswyl rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £1,500
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes preswyl sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”. Amcangyfrif yw'r gost hon, gan ei fod yn amrywio yn ôl cyrchfan a dyddiad archebu.
Cost: £1,300
Cwrs hyfforddi plymwyr sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwriaeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £350
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.