Gwyddorau Biolegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Astudiaeth o bethau byw, o ficro-organebau bach i anifeiliaid mawr, eiconig yw Gwyddorau Biolegol. Byddwch yn archwilio'r wyddoniaeth hanfodol hon yn fanwl, gan ddatgelu'r cysylltiadau a'r patrymau sy'n gwneud bywyd ar y Ddaear mor ddiddorol.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Trosolwg o'r Cwrs
Ymdrochwch yn y prosesau sy'n gyrru bywyd, gan gynnwys esblygiad, ffisioleg, bioleg foleciwlaidd ac ecoleg. Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau i ofyn cwestiynau, datrys problemau a gwneud synnwyr o'r byd naturiol.
Mae'r cwrs BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddorau Biolegol yn cynnig dull gweithredu cyfannol ym maes bioleg. Er bod yr elfennau eraill a gynigiwn yn y maes pwnc yn fwy arbenigol, mae cwrs bioleg eang yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio'r pwnc yn llawn, canfod eu hangerdd a chyfeirio eu llwybr yn y brifysgol tuag at nifer o yrfaoedd posibl.
Achredwyd gan
Cwrs Achrededig Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio bioleg, cemeg, a heriau'r byd go iawn, yn meithrin sgiliau ymarferol, academaidd, a gwaith tîm, ac yn datblygu chwilfrydedd, hyder, a galluoedd datrys problemau, i baratoi ar gyfer astudiaeth a chreu argraff yn y dyfodol.
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Byddwch yn archwilio egwyddorion biolegol craidd o foleciwlau i organebau cyfan, yn datblygu sgiliau labordy ymarferol, ac yn defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn i gefnogi eich dysgu a'ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yn y gwyddorau bywyd.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gysyniadau cemegol allweddol, o foleciwlau i adweithiau, yn meithrin sgiliau labordy ymarferol, ac yn ennill profiad hanfodol i gefnogi eich astudiaethau gwyddonol yn y dyfodol.
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac asesu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol.
Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Ar ôl eich Blwyddyn Sylfaen, wrth i chi symud ymlaen i'ch gradd, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn modiwl Ymarfer a Lleoliad Proffesiynol dewisol, gan roi profiad gwaith i chi gyda chyflogwr neu ar leoliad â chyflogwr wedi’i efelychu. Gallwch naill ai weithio mewn sefydliad yn eu gweithle neu wneud lleoliad wedi’i efelychu trwy weithio ar brosiect byw neu friff ar-lein.
Byddwn yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd lleoliadau, ond bydd angen i chi hefyd roi amser ac egni i ddod o hyd iddynt. Cefnogir y broses hon gan ein tîm gwasanaethau proffesiynol.
Mae labordai George Knox yn rhan o fuddsoddiad gwerth £15m mewn gwyddoniaeth i'r Brifysgol, sy'n golygu y byddwch yn cael eich addysgu mewn lleoedd newydd gyda chyfarpar da. Byddwch yn elwa ar sawl labordy gyda chyfarpar da ar gyfer gwaith ymarferol a gwaith prosiect. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:
- Labordy microbioleg sy'n gallu trafod pathogenau (categori 2).
- Labordy bioleg foleciwlaidd ar gyfer ynysu a dadansoddi DNA.
- Microsgopau taflunio yn y labordai microbioleg a microsgopeg i addysgu grwpiau.
- Labordai bioleg cyffredinol ar gyfer addysgu, gan gynnwys amrywiaeth o sgerbydau ar gyfer anatomeg gymharol.
- Ystafelloedd cyfrifiaduron gyda meddalwedd GIS arbenigol i gefnogi eich dysgu.
Arweinydd y Cwrs
Natalie Lubbock
Natalie yw Arweinydd y Cwrs Gwyddorau Biolegol ac Arweinydd y Rhaglen Gwyddorau Cymhwysol, yn ogystal â darlithydd mewn Ecoleg Bywyd Gwyllt a Chadwraeth. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad addysgu a 12 mlynedd fel ymchwilydd maes, mae hi'n dod ag arbenigedd o'r byd go iawn i'w haddysgu.
Gan arbenigo mewn ecoleg forol a dŵr croyw, mae Natalie yn frwd dros gynaliadwyedd a'r cysylltiadau rhwng iechyd amgylcheddol ac iechyd dynol. Mae ei hymchwil wedi mynd â hi i ecosystemau trofannol ledled De-ddwyrain Asia a Chanolbarth America, gan ganolbwyntio ar ecoleg a chadwraeth riffiau cwrel, yn cynnwys rhedeg canolfannau ymchwil gwyddor forol yn Honduras.
Drwy ei chysylltiadau ymchwil a diwydiant, gan gynnwys SEWRT ac OPWAL, mae Natalie yn helpu i gysylltu dysgu â chyfleoedd cadwraeth ac ymchwil yn y byd go iawn.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
DD, 48 pwynt Tariff UCAS i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth perthnasol ond heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol.
Bagloriaeth Cymru:
Amherthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio mewn pwnc perthnasol
Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
Lefel T:
Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Fel rheol, mae'r Brifysgol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cwrs maes preswyl:
Cwrs maes preswyl rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £1,500
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes:
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes preswyl sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”. Amcangyfrif yw'r gost hon, gan ei fod yn amrywio yn ôl cyrchfan a dyddiad archebu.
Cost: £1,300
Hyfforddiant plymio Padi:
Cwrs hyfforddi plymwyr sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwriaeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £350

Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.