Gwyddorau Biolegol
Archwiliwch fyd y gwyddorau biolegol, o lwybrau moleciwlaidd i ecosystemau cyfan, a datblygwch y sgiliau i fynd i'r afael â heriau byd-eang fel dirywiad amgylcheddol, clefydau sy'n dod i'r amlwg a newid hinsawdd, o bersbectif cynaliadwyedd biolegol.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
C102
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Côd UCAS
C103
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch wyddorau biolegol o bersbectif iechyd amgylcheddol a’r blaned, gan archwilio sut mae systemau byw yn rhyngweithio ac yn ymateb i fyd sy'n newid.
Datblygwch eich sgiliau ymarferol ar draws dilyniannu genomig, biowybodeg a monitro ecolegol yn y maes, wrth ddysgu mynd i'r afael â heriau fel colli bioamrywiaeth, newid defnydd tir a chlefydau sy'n dod i'r amlwg.
Gyda ffocws ar gynaliadwyedd, arloesedd a meddwl yn foesegol, byddwch yn dysgu sut mae gwybodaeth fiolegol yn hanfodol ac yn gallu cyfrannu at yr economi werdd. Adeiladwch hyder a thyfwch eich sgiliau proffesiynol fel y byddwch yn barod ar gyfer eich dyfodol ym maes gwyddor fiolegol ar ôl graddio.
Mae dau lwybr astudio arbenigol posibl gyda'n gradd Gwyddorau Biolegol y gellir eu hastudio ym mlynyddoedd dau a thri. Gwyddorau Biolegol yw llwybr arbenigol 1 (Biowyddor foleciwlaidd a chynaliadwyedd) ac mae'n astudio Biowyddorau Moleciwlaidd yn eich ail flwyddyn, a biofeddygaeth foleciwlaidd ac iechyd y cyhoedd yn eich trydedd flwyddyn. Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd) yw llwybr arbenigol 2 ac mae'n astudio Ecoleg Drofannol Gymhwysol neu Ymgynghoriaeth Ecolegol ym mlwyddyn dau, ac Ecoleg Forol a Dŵr Croyw ym mlwyddyn tri.
Achredwyd gan
Yn achrededig gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Adeiladwch eich sylfaen mewn gwyddorau biolegol, o gelloedd, geneteg a bioleg ddynol i ecoleg, esblygiad a bioamrywiaeth.
Trwy waith labordy a maes, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn dysgu sut mae systemau biolegol yn rhyngweithio ar wahanol raddfeydd.
Darganfyddwch sut mae organebau'n rhyngweithio â'i gilydd a'u hamgylchedd, o boblogaethau a chymunedau i ecosystemau cyfan. Ewch ati i ennill profiad ymarferol mewn arolygu ecolegol, adnabod rhywogaethau a dadansoddi data amgylcheddol trwy waith labordy a maes.
Cewch sylfaen mewn geneteg, bioleg celloedd a microbioleg, gan gwmpasu DNA, strwythur celloedd, celloedd arbenigol a bacteria. Mae sesiynau labordy ymarferol yn rhoi profiad i chi o weithio gyda DNA, microsgopau, organynnau a bacteria wrth feithrin sgiliau labordy hanfodol.
Dysgwch sut mae'r corff dynol wedi'i drefnu, o gelloedd a meinweoedd i organau a systemau organau, a sut mae strwythur yn gysylltiedig â swyddogaeth. Byddwch yn ystyried datblygiad dynol drwy gydol oes a'r berthynas rhwng anatomeg, ffisioleg, iechyd a chlefyd trwy ddysgu rhyngweithiol.
Datgelwch y prosesau esblygiadol sydd wedi llunio amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Ymchwiliwch i fioamrywiaeth, perthnasoedd esblygiadol a rhyngweithiadau rhywogaethau, gan dynnu ar dystiolaeth o ecoleg, geneteg, paleontoleg a ffylogeneteg i ddeall patrymau yn y byd naturiol.
Dyfnhewch eich dealltwriaeth o wyddorau biolegol wrth feithrin sgiliau ymarferol a phroffesiynol.
Byddwch yn astudio pynciau craidd gan gynnwys sŵoleg weithredol a chynaliadwyedd biolegol, gyda modiwl dewisol yn eich galluogi i archwilio meysydd fel cadwraeth, ecoleg, biowyddor foleciwlaidd, data, menter neu leoliad mewn diwydiant.
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i ddilyn llwybr astudio arbenigol. Gwyddorau Biolegol yw llwybr arbenigol 1 (Biowyddor foleciwlaidd a chynaliadwyedd) ac i gymryd y llwybr hwn, bydd angen i chi ddewis Biowyddorau Moleciwlaidd yn eich ail flwyddyn o astudio. Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd) yw llwybr arbenigol 2 ac i ddewis y llwybr hwn, bydd angen i chi ddewis Ecoleg Drofannol Gymhwysol neu Ymgynghoriaeth Ecolegol ym mlwyddyn dau.
Archwiliwch sut mae ffurf a swyddogaeth anifeiliaid wedi esblygu mewn ymateb i wahanol amgylcheddau. Trwy ddadansoddiadau ac ymarferion morffoleg cymharol, ymchwiliwch i addasiadau anatomegol a ffisiolegol ar draws prif grwpiau byw a diflanedig o anifeiliaid, o resbiradaeth ddyfrol i symudiad daearol.
Dewch i ddeall sut mae prosesau biolegol yn cefnogi iechyd y blaned ac archwiliwch y pwysau sy'n bygwth systemau naturiol. Rhowch wybodaeth fiolegol ac ecolegol ar waith mewn materion cynaliadwyedd y byd go iawn, gan ymchwilio i ddulliau fel bioadfer, adfer ecolegol a rheolaeth amgylcheddol gynaliadwy.
Ewch â'ch dysgu i amgylcheddau morol a choedwigoedd trofannol trwy gwrs maes preswyl. Enillwch brofiad ymarferol mewn arolygu ecolegol, adnabod rhywogaethau, asesu cynefinoedd a dadansoddi data wrth archwilio riffiau cwrel, dolydd morwellt, mangrofau a choedwigoedd trofannol.
Os hoffech ddilyn Llwybr dau, Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd), yna dewiswch y modiwl hwn neu Ymgynghoriaeth Ecolegol ar gyfer eich ail flwyddyn, ac Ecoleg Forol a Dŵr Croyw yn eich trydedd flwyddyn.
Camwch i fyd ymgynghoriaeth ecolegol a dysgwch sut mae asesiadau amgylcheddol yn sail i gynllunio a datblygu cynaliadwy. Enillwch brofiad ymarferol mewn arolygu ecolegol, GIS, dadansoddi data amgylcheddol ac adrodd proffesiynol, gan ddefnyddio deddfwriaeth a chanllawiau diwydiant mewn senarios ymgynghoriaeth realistig.
Os hoffech ddilyn Llwybr dau, Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd), yna dewiswch y modiwl hwn neu Gadwraeth Drofannol Gymhwysol ar gyfer eich ail flwyddyn, ac Ecoleg Forol a Dŵr Croyw yn eich trydedd flwyddyn.
Ymchwiliwch i brosesau biolegol ar lefel genetig a moleciwlaidd, gan archwilio sut maen nhw'n dylanwadu ar iechyd pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd. Enillwch brofiad ymarferol mewn technegau bioleg foleciwlaidd a dadansoddiad cyfrifiadurol o ddata dilyniant biolegol, gan gymhwyso'ch gwybodaeth i astudiaethau achos yn y byd go iawn.
Os hoffech ddilyn Llwybr un, Gwyddorau Biolegol (Biowyddor foleciwlaidd a chynaliadwyedd), yna dewiswch y modiwl hwn ar gyfer eich ail flwyddyn, a Biofeddygaeth foleciwlaidd ac iechyd y cyhoedd yn eich trydedd flwyddyn.
Archwiliwch egwyddorion a’r defnydd o AI, gan ddatblygu sgiliau ymarferol trwy waith ymarferol a datrys problemau rhyngddisgyblaethol. Dysgwch sut i gymhwyso AI yn gyfrifol i heriau gwyddonol, amgylcheddol a thechnolegol y byd go iawn.
Adeiladwch y sgiliau masnachol a menter sydd eu hangen i weithredu eich gwybodaeth STEM yn y gweithle. Dysgwch am gynllunio busnes, cyllidebu a gwybodaeth ariannol wrth gydweithio i ddatblygu a chyflwyno syniad, gan gryfhau eich dulliau cyfathrebu proffesiynol, ymwybyddiaeth fasnachol a hyder.
Trowch ddata o'r byd go iawn yn fewnwelediadau ystyrlon, gan ddatblygu'r sgiliau i gasglu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth gan ddefnyddio offer ystadegol a chyfrifiadurol. Dysgwch ddelweddu data a chyfleu eich canfyddiadau'n glir, gan weithredu technegau dadansoddol gyda phroblemau gwyddonol, technolegol ac sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
Dewch i ddeall sut mae rheoli iechyd a diogelwch effeithiol yn amddiffyn pobl ac yn cefnogi gweithleoedd cyfrifol ar draws STEM. Archwiliwch ddeddfwriaeth, rheoli risg, ymchwilio i ddamweiniau a diwylliant diogelwch, gan gymhwyso'ch gwybodaeth i senarios byd go iawn wrth ddatblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol.
Enillwch sgiliau rheoli prosiectau ymarferol, o ddiffinio a chynllunio prosiectau i reoli risg, ansawdd, adnoddau a rhanddeiliaid. Datblygwch eich gallu i gyfathrebu, cydweithio ac arwain yn effeithiol, gan weithredu dulliau strwythuredig gyda phrosiectau mewn STEM ac amgylcheddau proffesiynol eraill.
Rhowch eich gwybodaeth ar waith gyda lleoliad blwyddyn o hyd yn y diwydiant, gan ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith proffesiynol. Datblygwch eich sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau wrth weithredu eich dysgu academaidd mewn sefyllfaoedd gweithle go iawn, gyda chefnogaeth goruchwyliaeth academaidd drwy gydol eich lleoliad.
Ewch â'ch gwybodaeth ymhellach drwy archwilio biotechnoleg ar gyfer datrysiad cynaliadwy a chwblhau prosiect ymchwil annibynnol.
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau gyda materion biolegol yn y byd go iawn, gyda modiwlau dewisol mewn iechyd dynol neu ecoleg forol a dŵr croyw yn caniatáu ichi arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Os ydych chi wedi penderfynu dilyn llwybr arbenigol un (Gwyddorau Biolegol (Biowyddor foleciwlaidd a chynaliadwyedd)), bydd angen i chi ddewis Biofeddygaeth Foleciwlaidd ac Iechyd y Cyhoedd fel eich modiwl dewisol eleni. Os ydych chi'n astudio llwybr dau (Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd)) bydd angen i chi ddewis Ecoleg Forol a Dŵr Croyw.
Archwiliwch y ffactorau biolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n llunio iechyd dynol ac anghydraddoldebau iechyd. Ymchwiliwch i faterion cyfoes fel clefydau heintus, ymwrthedd i wrthficrobiaid a chlefydau anhrosglwyddadwy, gan archwilio sut y gall datblygiadau mewn diagnosteg, therapïau ac iechyd y cyhoedd wella canlyniadau iechyd.
Os hoffech ddilyn Llwybr un, Gwyddorau Biolegol (Biowyddor foleciwlaidd a chynaliadwyedd), yna dewiswch y modiwl hwn ar gyfer eich trydedd flwyddyn, a Biowyddorau Moleciwlaidd yn eich ail flwyddyn.
Darganfyddwch sut y gall biotechnoleg helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy, o atafaelu carbon a thanwydd gwyrdd i ddiogelwch dŵr ac adfer pridd, a systemau bwyd. Defnyddiwch fioleg foleciwlaidd, ecoleg a rheoli adnoddau i archwilio atebion arloesol i heriau amgylcheddol byd-eang a chefnogi dull adfywiol.
Plymiwch i ecoleg amgylcheddau morol a dŵr croyw, gan archwilio bioamrywiaeth ddyfrol, prosesau ecolegol a'r addasiadau sy'n caniatáu i organebau oroesi mewn amodau heriol. Ymchwiliwch i effeithiau gweithgarwch dynol ac archwiliwch ddulliau o reoli ecosystemau dyfrol trwy weithgareddau ymarferol ac efelychiadau cyfrifiadurol.
Os hoffech ddilyn Llwybr dau, Gwyddorau Biolegol (Ecoleg a chynaliadwyedd), yna dewiswch y modiwl hwn ar gyfer eich trydedd flwyddyn, a Chadwraeth Drofannol Gymhwysol neu Ymgynghoriaeth Ecolegol ar gyfer eich ail flwyddyn, ac Ecoleg Forol a Dŵr Croyw yn eich trydedd flwyddyn.
Cymerwch berchnogaeth o'ch prosiect ymchwil eich hun, gan ymchwilio i broblem agored neu heb ei datrys sy'n gysylltiedig â phwnc eich gradd. Defnyddiwch y wybodaeth a'r dulliau ymchwil rydych chi wedi'u datblygu drwy gydol eich astudiaethau i gynllunio a chynnal ymchwiliad gwreiddiol, dadansoddi canfyddiadau a chyfleu eich gwaith yn effeithiol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac asesu
Dysgwch gan Dîm STEM y Flwyddyn Cymru (Gwyddorau Cymhwysol 2026) trwy gymysgedd o brofiadau ymarferol, ymdrochol ac wedi'u llywio gan ymchwil, a gynlluniwyd i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol mewn biowyddorau. Byddwch yn archwilio systemau biolegol ar wahanol raddfeydd, o brosesau moleciwlaidd a genomig i ecosystemau, wrth ddatblygu'r sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, ecolegol ac iechyd, a gyflwynir i gyd gan ein tîm amrywiol o academyddion sy'n weithgar mewn ymchwil a thechnegwyr arbenigol sy'n dod â mewnwelediadau go iawn i'r ystafell ddosbarth.
Byddwch chi'n dysgu drwy ymchwiliadau labordy, gwaith maes, astudiaethau achos a phrosiectau cydweithredol, gan gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei ddysgu i heriau biolegol go iawn sy'n wynebu cynaliadwyedd biolegol. Mae cyfleusterau arbenigol a safleoedd maes amrywiol yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu sgiliau ymarferol, tra bod siaradwyr gwadd, ymgysylltu â diwydiant, lleoliadau a gwirfoddoli yn gallu helpu i gysylltu eich dysgu ag ymarfer proffesiynol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol, gwaith grŵp cydweithredol gan gynnwys trafodaethau, cyflwyniadau a phrosiectau, dadansoddi data, ac astudiaethau achos. Mae asesiadau wedi'u cynllunio i ddatblygu eich gallu i ymchwilio i broblemau biolegol, gwerthuso a chyfleu tystiolaeth, meddwl yn feirniadol a chymhwyso eich gwybodaeth i sefyllfaoedd byd go iawn. Wrth i chi symud ymlaen drwy'r cwrs, byddwch yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ymchwilio, dadansoddi a dod o hyd i atebion annibynnol i heriau biolegol cymhleth.
Bydd gan fyfyrwyr yr ail flwyddyn y dewis o gael lleoliad blwyddyn o hyd yn y diwydiant, lle byddwch yn rhoi eich gwybodaeth a'ch sgiliau academaidd ar waith mewn lleoliad gwaith proffesiynol. Byddwch yn cael dealltwriaeth wirioneddol o senarios go iawn, yn rhoi ystyr a chyd-destun i theori ac yn ennill profiad gwerthfawr i baratoi ar gyfer gyrfa a diwydiant.
Mae ein cyfres o labordai microbioleg o'r radd flaenaf yn cynnwys offeryniaeth safonol y diwydiant, gan gynnwys microsgopeg cydraniad uchel, a chylchwyr thermol ar gyfer PCR. Y tu hwnt i'r labordy, byddwch yn defnyddio theatrau darlithio modern a seminarau tiwtorial cydweithredol a gynlluniwyd ar gyfer trafodaethau rhwng cyfoedion a phrosiectau grŵp. Rydym hefyd yn defnyddio amrywiaeth o safleoedd maes ar y campws, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, sy'n eich galluogi i ennill profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o ecosystemau gwahanol.
Arweinydd y Cwrs
Natalie Lubbock
Natalie yw Arweinydd y Cwrs Gwyddorau Biolegol ac Arweinydd y Rhaglen Gwyddorau Cymhwysol, yn ogystal â darlithydd mewn Ecoleg Bywyd Gwyllt a Chadwraeth. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad addysgu a 12 mlynedd fel ymchwilydd maes, mae hi'n dod ag arbenigedd o'r byd go iawn i'w haddysgu.
Gan arbenigo mewn ecoleg forol a dŵr croyw, mae Natalie yn frwd dros gynaliadwyedd a'r cysylltiadau rhwng iechyd amgylcheddol ac iechyd dynol. Mae ei hymchwil wedi mynd â hi i ecosystemau trofannol ledled De-ddwyrain Asia a Chanolbarth America, gan ganolbwyntio ar ecoleg a chadwraeth riffiau cwrel, yn cynnwys rhedeg canolfannau ymchwil gwyddor forol yn Honduras.
Drwy ei chysylltiadau ymchwil a diwydiant, gan gynnwys SEWRT ac OPWAL, mae Natalie yn helpu i gysylltu dysgu â chyfleoedd cadwraeth ac ymchwil yn y byd go iawn.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys Bioleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
Gofynion Gwyddoniaeth:
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll Gwyddoniaeth Lefel A yn Lloegr basio'r elfen ymarferol ochr yn ochr â chyflawni'r radd(au) y gofynnwyd amdani
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC ar gyfer Safon Uwch i gynnwys Bioleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Bioleg.
Mynediad i AU:
Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Lefel T:
P
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cwrs maes preswyl
Cwrs maes preswyl rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £1,500
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes preswyl sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”. Amcangyfrif yw'r gost hon, gan ei fod yn amrywio yn ôl cyrchfan a dyddiad archebu.
Cost: £1,300
Hyfforddiant plymio Padi
Cwrs hyfforddi plymwyr sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwriaeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £350
Lleoliad*
Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant i gwblhau eu prosiect dalu eu costau teithio eu hunain i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod cyfnod y lleoliad. Bydd cost hyn, wrth gwrs, yn amrywio ac mae rhai myfyrwyr hefyd wedi talu am lety yn agos i'w gweithle ar gyfer cyfnod y lleoliad.
Cost: Amrywiol
Arall
Noder, byddai disgwyl i fyfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant neu dramor i gwblhau eu prosiectau, dalu eu costau teithio eu hunain i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod cyfnod y lleoliad. Bydd cost hyn, wrth gwrs, yn amrywio ac mae rhai myfyrwyr hefyd wedi talu am lety yn agos i'w gweithle ar gyfer cyfnod y lleoliad.
Cost: Amrywiol
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cwrs maes preswyl
Cwrs maes preswyl rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £1,500
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes
Tocyn awyren ar gyfer cwrs maes preswyl sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwraeth Drofannol Gymhwysol”. Amcangyfrif yw'r gost hon, gan ei fod yn amrywio yn ôl cyrchfan a dyddiad archebu.
Cost: £1,300
Hyfforddiant plymio Padi
Cwrs hyfforddi plymwyr sy'n gysylltiedig â'r modiwl dewisol “Cadwriaeth Drofannol Gymhwysol”.
Cost: £350
Lleoliad*
Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant i gwblhau eu prosiect dalu eu costau teithio eu hunain i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod cyfnod y lleoliad. Bydd cost hyn, wrth gwrs, yn amrywio ac mae rhai myfyrwyr hefyd wedi talu am lety yn agos i'w gweithle ar gyfer cyfnod y lleoliad.
Cost: Amrywiol
Arall
Noder, byddai disgwyl i fyfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant neu dramor i gwblhau eu prosiectau, dalu eu costau teithio eu hunain i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod cyfnod y lleoliad. Bydd cost hyn, wrth gwrs, yn amrywio ac mae rhai myfyrwyr hefyd wedi talu am lety yn agos i'w gweithle ar gyfer cyfnod y lleoliad.
Cost: Amrywiol
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Gwyddorau Biolegol
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Gwyddorau Biolegol
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion