Peirianneg Awyrenegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Archwiliwch beirianneg a gweld sut mae'n effeithio ar fywyd bob dydd, wrth i chi baratoi ar gyfer ein gradd lawn achrediad dwbl a gyrfa awyrenneg. Darganfyddwch y diwydiant awyrennau wrth i chi ennill yr arbenigedd a'r sgiliau ar gyfer gyrfa yn gweithio gydag awyrennau.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H41F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cymerwch eich camau cyntaf i ddod yn beiriannydd awyrenegol ar ein Blwyddyn Sylfaen a fydd yn eich paratoi i astudio ein gradd lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn berffaith os ydych chi am astudio ein gradd Peirianneg Awyrenegol lawn, ond nad oes gennych chi'r graddau. Byddwch chi'n sefydlu sylfaen gref, gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth hanfodol, wrth i chi ddysgu am wahanol fathau o beirianneg ac ennill profiad ymarferol yn ein cyfleusterau gorau.
Wedi’i achredu gan
- Bwrdd Cynghori Diwydiannol
- Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn mynd trwy ei broses ail-achredu a drefnwyd pob pum mlynedd gyda’r Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Chymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS). Disgwylir canlyniad yr adolygiad presennol erbyn Tachwedd 2026.
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
- Peiriannydd Dylunio
- Peiriannydd Awyrofod
- Rheoli Awyrennau
- Ymchwilydd
Y sgiliau a addysgir
- Datrys problemau drwy ddadansoddi, gan ddefnyddio damcaniaethau gwyddonol a pheirianyddol
- Gwybodaeth uwch o dechnoleg arloesol
- Gweithio mewn tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Deall cyfrifoldebau proffesiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Datblygwch wybodaeth hanfodol am beirianneg a sylfaen fathemategol gref yn ein Blwyddyn Sylfaen, a gynlluniwyd i feithrin eich hyder technegol a'ch sgiliau academaidd cyn symud ymlaen i'r radd Peirianneg Awyrenegol.
Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Peirianneg ar Waith: O Theori i Ymarfer
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.
Dylunio a Chynhyrchu ar Waith
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg, gan gynnwys y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Byddwch yn archwilio'r broses ddylunio lawn, o ymchwil i greu a phopeth yn y canol.
Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi’n dysgu
Mae'r cwrs BEng Peirianneg Awyrenegol yn cyfuno darlithoedd, tiwtorialau, gwaith mewn labordai a seminarau. Mae hunan-astudio sylweddol yn hanfodol, gan gynnwys gwaith ymchwil a pharatoi asesiadau.
Gall myfyrwyr ymweld â chwmnïau mawr yn y diwydiant fel Rolls Royce, GE Aviation ac Airbus, gan elwa ar ddarlithoedd gwadd gan ddiwydianwyr ac academyddion blaenllaw sy'n trafod cynnydd technolegol cyfoes.
Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, efelychiadau, a thasgau datrys problemau. Mae prosiectau grŵp yn pwysleisio sgiliau cyflwyno, gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr siarad o flaen eu cyfoedion.
Yn nodedig, yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn hedfan awyren go iawn, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o egwyddorion rheoli ac ymddygiad awyrennau.
Staff Addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau ystod eang o arbenigedd yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu’r arbenigedd hwn drwy waith ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r meysydd ymchwil yn rhyngwladol eu cwmpas ar yr un pryd â bod yn berthnasol yn lleol, gan weithio’n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu’n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd drwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maent bellach yn defnyddio'r wybodaeth honno i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd a gynrychiolir ymhlith ein staff academaidd yn rhoi ehangder i brofiad y myfyrwyr ac yn eu datblygu yn dechnegol a phroffesiynol.
Lleoliadau
Ar ôl eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn gallu dysgu a phrofi bywyd yn gweithio fel rhan o'r radd Peirianneg Awyrenegol lawn. Rydym yn gwybod gwerth ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn ac felly rydym yn gweithio gyda sawl cwmni, yn lleol ac yn genedlaethol.
Gall myfyrwyr ddisgwyl gweithio gyda chewri'r diwydiant fel Airbus, Boeing, Rolls Royce a GE Aviation i gael gwell dealltwriaeth o rolau posibl ar ôl graddio.
Gallwch ddewis cwblhau blwyddyn ryngosod ar ôl eich ail flwyddyn ar y radd lawn, gan eich galluogi i ddefnyddio gwybodaeth rydych chi wedi'i hennill yn ystod eich gradd mewn senarios go iawn.
Cyfleusterau
Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i'r Ganolfan Awyrofod, sy'n cynnig 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai i fyfyrwyr peirianneg, dau awyrendy, ac efelychydd hedfan MP521.
Mae'r Ganolfan yn dal awyren Jetstream 31, gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio. Yn ogystal, mae'n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai i gynnal tasgau electronig, afioneg, hydroleg, a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn hwyluso hyfforddiant aerodynamig.
Mae efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn allweddol ar gyfer profi dyluniadau a pharatoi profion hedfan.
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Peirianneg Awyrofod (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)
Mae Peirianneg Awyrofod ac Awyrofod ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yn y DU am ansawdd addysgu.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024Ymhlith y 10 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Peirianneg Awyrofod (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)
Hyb Arloesi yn PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
- BTEC: BTEC Pas Pas Pas Diploma Estynedig neu BTEC Pas Pas Diploma
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS
- Safon T: Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.