BEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Cymerwch eich camau cyntaf tuag at yrfa yn y maes awyrofod wrth i chi baratoi ar gyfer ein gradd amser llawn. Archwiliwch y diwydiant sy'n ymwneud ag awyrenneg a gofod, wrth i chi feithrin y wybodaeth a'r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch i ffynnu fel peiriannydd.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    H50F

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,790*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi symud ymlaen i'n gradd Peirianneg Awyrofod lawn. Magwch eich hyder wrth i chi ddysgu gyda chymorth ein staff arbenigol a chan ddefnyddio cyfleusterau arloesol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn berffaith i’r rhai sydd am astudio ein gradd Peirianneg Awyrofod lawn, ond sydd heb y gofynion mynediad ar hyn o bryd. Byddwch chi'n sefydlu sylfaen gref, gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth hanfodol, wrth i chi ddysgu am wahanol fathau o beirianneg ac ennill profiad ymarferol yn ein cyfleusterau arloesol.

Llwybrau gyrfa

  • Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
  • Peiriannydd Dylunio
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Ymchwil

Y sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau drwy ddadansoddi, gan ddefnyddio damcaniaethau gwyddonol a pheirianyddol
  • Gwybodaeth uwch o dechnoleg arloesol
  • Gweithio mewn tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol
  • Proffesiynoldeb

Engine of a plane in the aerospace centre on Treforest campus

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cydnabyddiaeth Broffesiynol

Wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â chyrff proffesiynol y diwydiant i hybu eich cyflogadwyedd.

Canolbwyntio ar y Diwydiant

Cysylltiadau cryf â diwydiant, gyda phwyslais mawr ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd Lleoliadau Gwaith

Anogir lleoliadau diwydiannol ar ein gradd lawn, ac rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i helpu myfyrwyr i'w cael nhw.

Gwybodaeth Arbenigol

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, trwy weithgareddau ymchwil a phrofiad proffesiynol yn eu gyrfaoedd.

Yn Barod ar gyfer y Diwydiant

Wedi'i gynllunio i fodloni gofynion achredu'r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar gyfer statws Peiriannydd Corfforedig.

Trosolwg o’r Modiwl

Datblygwch wybodaeth hanfodol am beirianneg a sylfaen fathemategol gref yn ein Blwyddyn Sylfaen, a gynlluniwyd i feithrin eich hyder technegol a'ch sgiliau academaidd cyn symud ymlaen i'r radd Peirianneg Awyrofod.

Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.

Peirianneg ar Waith: O Theori i Ymarfer
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.

Dylunio a Chynhyrchu ar Waith
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg, gan gynnwys y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Byddwch yn archwilio'r broses ddylunio lawn, o ymchwil i greu a phopeth yn y canol.

Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi'n dysgu

Gallwch astudio’r radd hon ar sail amser llawn ac mae hefyd yn cynnig lleoliad gwaith rhyngosod os byddwch yn penderfynu bod hwn yn llwybr priodol i chi.

Addysgir y rhaglen awyrofod hon drwy ddarlithoedd, a gefnogir gan diwtorialau, sesiynau ymarferol a grwpiau seminar. Lle bynnag y bo modd, bydd eich gwaith yn seiliedig ar brosiectau byw ac astudiaethau achos, gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu, fel arholiadau llyfr caeedig ffurfiol, gwaith grŵp, prosiectau unigol, asesiadau llafar ac arbrofion labordy, tra bod arholiadau’n cyfrannu tua 30% o’r holl asesiadau ar y cwrs.

Staff Addysgu

Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau ystod eang o arbenigedd yn eu meysydd pwnc. 

Mae rhai wedi datblygu’r arbenigedd hwn drwy waith ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r meysydd ymchwil yn rhyngwladol eu cwmpas ar yr un pryd â bod yn berthnasol yn lleol, gan weithio’n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu’n lleol. 

Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd drwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maent bellach yn defnyddio'r wybodaeth honno i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.

Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd a gynrychiolir ymhlith ein staff academaidd yn rhoi ehangder i brofiad y myfyrwyr ac yn eu datblygu yn dechnegol a phroffesiynol. 

Lleoliadau

Rydyn ni'n gwybod nad oes dim yn well na mynd allan i'r byd go iawn, gweld sut mae'r diwydiant peirianneg yn gweithredu a datblygu eich sgiliau mewn amgylcheddau go iawn.

Ar ôl symud ymlaen i'n gradd lawn, byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i brofiad gwaith ystyrlon a byddwch yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad Blwyddyn Ryngosod ar ôl eich ail flwyddyn. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau lleoliadau gyda chwmnïau blaenllaw fel GE Aviation, Airbus a British Airways Maintenance.

Rydyn ni'n trefnu sawl taith maes ac yn gwahodd arbenigwyr diwydiant o wahanol gwmnïau i gyflwyno darlithoedd a chefnogi prosiectau, gan roi cipolwg pellach i chi ar fyd gwaith.

Cyfleusterau

Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i'r Ganolfan Awyrofod, sy'n cynnig 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai i fyfyrwyr peirianneg, dau awyrendy, ac efelychydd hedfan MP521.

Mae'r Ganolfan yn dal awyren Jetstream 31, gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio. Yn ogystal, mae'n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai i gynnal tasgau electronig, afioneg, hydroleg, a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn hwyluso hyfforddiant aerodynamig.

Mae efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn allweddol ar gyfer profi dyluniadau a pharatoi profion hedfan.

Hyb Arloesi yn PDC

A photo thumbnail for the

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ein gradd Peirianneg Awyrenegol lawn sy'n arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Mae galw mawr am ein graddedigion ledled y byd.

Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio i Rolls Royce, GE Aviation, MBDA, Airbus, Jaguar Land Rover, Boeing, EasyJet, Emirates, Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (Dstl) a Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU.

Partneriaid Diwydiant

Mae ein cwrs wedi'i gynllunio mewn cydweithrediad â chwmnïau peirianneg blaenllaw, gan gynnwys Rolls Royce, GE Aviation, BAMC, ac Airbus, Nordam Europe a TES Aviation Group, ymhlith eraill.

Rydym yn falch o'n cysylltiadau cryf gan ei fod yn golygu bod ein haddysgu yn adlewyrchu gofynion y diwydiant ac mae'n rhoi cyfleoedd lleoliadau, ymweliadau maes, ac ymweliadau gan arbenigwyr yn y diwydiant i'n myfyrwyr.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein staff wrth law i'ch helpu i nodi eich cryfderau a datblygu'r sgiliau sydd mewn galw gan gyflogwyr, gan ddefnyddio eu profiad trylwyr ym meysydd awyrofod, awyrennau, moduron a gweithgynhyrchu. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd hefyd yn cynnig cefnogaeth ragorol, gan eich cysylltu â'r diwydiant a chynorthwyo gyda'ch CV, ceisiadau am swyddi a chyfweliadau.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD
  • BTEC: Pasio Pasio Pasio Diploma Estynedig BTEC neu Diploma BTEC
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS
  • Safon T: Pasio (D neu E)

Gofynion ychwanegol:

Fel rheol, mae'r Brifysgol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 


Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,790

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

COSTAU YCHWANEGOL

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

two students in navy overalls looking up at the underneath of a plane

Ymhlith y 10 uchaf yn y DU

ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Peirianneg Awyrofod

(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.