BEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Mae galw mawr am Beirianwyr Mecanyddol mewn amryw ddiwydiannau, o’r diwydiannau prosesu bwyd ac ynni adnewyddadwy i’r diwydiannau modurol ac awyrofod. Dechreuwch eich taith at radd lawn a gweld sut mae peirianwyr mecanyddol yn helpu i adeiladu a gwella'r byd o'n cwmpas.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    H30F

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,790*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Byddwch yn ennill hyder a gwybodaeth arbenigol ac yn paratoi ar gyfer ein gradd lawn mewn Peirianneg Fecanyddol trwy ymuno â’n Blwyddyn Sylfaen a byddwch yn elwa ar ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn ddelfrydol os ydych chi'n awyddus i astudio ein gradd BEng Peirianneg Fecanyddol ond heb y graddau iawn. Bydd ein cwrs yn eich paratoi ar gyfer y radd lawn yn ogystal â gyrfa beirianneg trwy ddefnyddio theori a dysgu ymarferol yn ein cyfleusterau gwych sydd o safon y diwydiant.

Wedi'i achredu gan

  • Y Cyngor Peirianneg
  • Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn mynd trwy ei broses ail-achredu a drefnwyd pob pum mlynedd gyda’r Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Disgwylir canlyniad yr adolygiad presennol erbyn Tachwedd 2026.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheolwr Cynhyrchu
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Modurol

Sgiliau a addysgir

  • Datblygu gwybodaeth am dechnoleg arloesol
  • Cydweithio, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol fel cynaliadwyedd a moeseg

Lecturer talking to camera

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cydnabyddiaeth Broffesiynol

Wedi'i achredu gan IMechE, ac yn ffurfio'r sylfaen addysgol ar gyfer statws Peiriannydd Corfforedig ac, wedi dysgu pellach, statws Peiriannydd Siartredig.

Ffocws ar y Diwydiant

Cysylltiadau cryf â diwydiant gyda phwyslais ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol, yn seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd Lleoliadau Gwaith

Mae lleoliadau gyda diwydiant yn cael eu hannog ar ein gradd lawn, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda chyflogwyr i helpu myfyrwyr i sicrhau lleoliadau.

Gwybodaeth Arbenigol

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, drwy eu gweithgareddau ymchwil a thrwy brofiad proffesiynol yn eu gyrfaoedd.

Trosolwg o'r Modiwl

Datblygwch wybodaeth beirianneg hanfodol a sylfaen fathemategol gref drwy ein Blwyddyn Sylfaen, wedi'i chynllunio i gynyddu eich hyder technegol a'ch sgiliau academaidd cyn i chi symud yn eich blaen i'n gradd Peirianneg Fecanyddol.

Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.

Peirianneg ar Waith: O Theori i Ymarfer
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.

Dylunio a Chynhyrchu ar Waith
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg, gan gynnwys y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Byddwch yn archwilio'r broses ddylunio lawn, o ymchwil i greu a phopeth yn y canol.

Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.

 

Sut byddwch chi'n cael eich asesu

Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.

Lleoliadau

Rydyn ni’n gwybod mor werthfawr mae lleoliadau, ac yn angerddol dros helpu ein myfyrwyr i gael cyfleoedd profiad gwaith. Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol i helpu myfyrwyr i gael profiad yn y diwydiant.

Ar ôl i chi symud yn eich blaen i'r radd Peirianneg Fecanyddol lawn, bydd gennych gyfle i roi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith yn y gweithle trwy flwyddyn ryngosod mewn diwydiant ar ôl eich ail flwyddyn.

Cyfleusterau

Yn ystod eich Blwyddyn Sylfaen, ac os ewch yn eich blaen i'r radd lawn, byddwch yn dysgu drwy ddefnyddio cyfleusterau gwych, sydd o'r radd flaenaf, ar ein campws yn Nhrefforest. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd yn defnyddio ein meddalwedd dylunio a dadansoddi, sydd o safon y diwydiant, yn ein labordai cyfrifiaduron sydd â chyfarpar ardderchog. Bydd gennych fynediad at yr offer diweddaraf a’n staff technegol yn ein gweithdai pan fyddwch yn cwblhau eich gwaith prosiect.

Wedi'i achredu gan

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn eich paratoi ar gyfer y radd BEng Peirianneg Fecanyddol lawn sydd ag enw da yn y diwydiant. Mae graddedigion yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd fel ymchwil a datblygu, dylunio, rheoli gweithgynhyrchu, gwerthu technegol, a pheirianneg cyfarpar ac offer. Gallwch hefyd symud yn eich blaen i astudio at radd PhD Peirianneg neu radd ymchwil.

Partneriaid Diwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf â ffigurau allweddol ym maes peirianneg fecanyddol, ar lefel leol a chenedlaethol, i alluogi ein myfyrwyr i gael blas go iawn ar ddiwydiant wrth ddysgu.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad o bob math i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, eich helpu gyda sgiliau cyfweld a pharatoi CVs a'ch helpu i ddatblygu eich cyfeiriad eich taith chi at yrfa.

Hyb Arloesi yn PDC

A photo thumbnail for the

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD, 48 pwynt Tariff UCAS.
  • Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
  • BTEC: BTEC Pas Pas Pas Diploma Estynedig neu BTEC Pas Pas Diploma
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.

Gofynion Ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Mynediad Uwch: Mae ymgeiswyr mewnol (USW a Cholegau Partner) sy'n cymryd Peirianneg Fecanyddol HND sy'n cyflawni proffil gwahaniaeth gyda mwy na 70% mewn gwyddoniaeth fecanyddol a hylifau thermo yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad 3edd flwyddyn i Beirianneg Fecanyddol BEng. Gall ymgeiswyr sy'n cael HND o brifysgolion neu golegau eraill sydd â phroffiliau gradd is ymuno â 3edd flwyddyn y BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,790

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

A student in navy overalls concentrates a piece of mechanical equipment on a table in an engineering workshop

92%

Roedd 92% o fyfyrwyr BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol PDC yn fodlon ar eu cwrs.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025