Systemau Peirianneg a Chynnal a Chadw Awyrennau (Atodol)
Paratowch i gymryd eich camau nesaf yn y diwydiant awyrofod byd-eang gyda'n gradd atodol. P'un a ydych chi'n rhoi hwb i'ch gyrfa bresennol neu'n camu i mewn i alwedigaeth newydd gyffrous, adeiladwch ar y sgiliau a'r profiad rydych chi eisoes wedi'u hennill wrth ehangu eich gwybodaeth am gynnal a chadw awyrennau a'r sectorau hedfanaeth cysylltiedig.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H409
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Ar-lein
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£804*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£804*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol i'r diwydiant, arbenigedd technegol, a sgiliau proffesiynol. Byddwch wedi'ch paratoi’n llawn fel gweithiwr proffesiynol medrus a chyfrifol sy'n barod am ystod amrywiol o rolau ledled y sector awyrofod.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs atodol wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ennill gradd peirianneg, trwy adeiladu ar eu profiad a'u cymwysterau presennol yn y diwydiant, fel ardystiad Rhan-66 EASA/CAA priodol, HND perthnasol neu gymhwyster Lefel 5 cyfatebol.
Llwybrau Gyrfa
- Cynllunio Gwaith Cynnal a Chadw Awyrennau
- Gweithgynhyrchu Awyrennau
- Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw
- Cymorth Technegol Awyrennau
Y sgiliau a addysgir
- Ymchwilio
- Meddwl yn Feirniadol
- Cyflwyno Cyflwyniadau
- Ysgrifennu Adroddiadau
- Gwaith Tîm
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Dysgwch gan ddefnyddio arbenigedd a sgiliau o wahanol feysydd peirianneg i wella'ch gyrfa. Archwiliwch gynaliadwyedd, arweinyddiaeth a safbwyntiau byd-eang wrth i chi ddatblygu sgiliau hanfodol fel atebolrwydd, cydweithio a rheolaeth.
Technolegau Awyrofod; Cynaliadwyedd, Deunyddiau a Gyriant
Archwiliwch ddatblygiad awyrofod cynaliadwy a thechnoleg hygyrch wrth ddysgu am dechnolegau modern, profion ac ymchwil a ddefnyddir i ddylunio awyrennau. Darganfyddwch y deunyddiau a'r prosesau gweithgynhyrchu a ddefnyddir wrth i'r diwydiant symud tuag at niwtraliaeth carbon.
Arwain Prosiectau Awyrofod
Darganfyddwch egwyddorion rheoli prosiectau o fewn maes peirianneg a chynnal a chadw’r diwydiant awyrofod. Dysgwch sut i leihau amser segur awyrennau, a hyrwyddo diogelwch ac effeithlonrwydd, wrth archwilio sut y gallwch chi helpu i ddatblygu atebion hygyrch a chynaliadwy sy'n seiliedig ar dechnoleg mewn awyrenneg.
Datrysiadau Cynnal a Chadw Awyrennau mewn Oes Ddigidol
Datblygwch ddealltwriaeth feirniadol o sut mae technolegau digidol yn trawsnewid cynnal a chadw yn y diwydiant awyrofod gyda phwyslais ar ddadansoddeg ragfynegol, gefell digidol, a diagnosteg sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth artiffisial. Dysgwch am oblygiadau posibl gan gynnwys ffactorau dynol, seiberddiogelwch, ac effeithiau amgylcheddol.
Peirianneg Awyrofod; Her i'r Diwydiant
Defnyddiwch eich arbenigedd i ddatrys heriau byd go iawn sy'n wynebu peirianwyr awyrofod. Ewch ati i wella eich sgiliau trosglwyddadwy wrth gynnal ymchwil fanwl a rheoli prosiect mawr, o gynllunio a dadansoddi llenyddiaeth feirniadol i gyfiawnhau eich penderfyniadau.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Archwiliwch gynnal a chadw awyrennau a'r diwydiant hedfanaeth drwy gymysgedd o seminarau, gweithdai, a dysgu seiliedig ar brosiectau. Mae ein cwrs wedi'i lywio gan ymchwil gyfredol ac arfer diwydiant, gan sicrhau perthnasedd i'r sector awyrofod byd-eang.
Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein cwrs sy'n defnyddio cymysgedd o ddysgu damcaniaethol ac ymarferol. Byddwch yn defnyddio cyfleusterau arloesol, amgylcheddau dysgu rhithwir ac offer efelychu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn ogystal ag arbenigedd technegol amhrisiadwy.
Sut y byddwch chi'n cael eich asesu
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs a chyflwyniadau, gan roi'r cyfle i chi ddangos eich bod yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth broffesiynol sydd eu hangen ar y diwydiant awyrofod byd-eang.
O waith ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar i werthusiadau technegol a thasgau sy'n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn gweithredu'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs mewn heriau byd go iawn sy'n wynebu'r sector. Byddwch yn arddangos eich sgiliau dadansoddi a meddwl beirniadol dyfnach wrth i chi gwblhau aseiniadau sydd wedi'u llywio gan y diwydiant.
Cyfleusterau
Mae PDC wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i'r Ganolfan Awyrofod, sy'n cynnig 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai i fyfyrwyr peirianneg, dwy sied awyrennau, ac efelychydd hedfan MP521.
Mae'r Ganolfan yn dal awyren Jetstream 31, gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio. Yn ogystal, mae'n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai ar gyfer tasgau electronig, afioneg, hydroleg a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn hwyluso hyfforddiant aerodynamig.
Mae'r efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn ganolog wrth brofi gwaith dylunio a pharatoi profion hedfan.
Byddwch hefyd yn astudio yn ein hadeilad Calon newydd, o'r radd flaenaf, gwerth £60 miliwn. Canolfan ragoriaeth ar gyfer dysgu, ymchwil ac arloesi STEM.
Hyb Arloesi yn PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae mynediad i'r cwrs atodol BSc (Anrh) Systemau Peirianneg a Chynnal a Chadw Awyrennau yn gofyn bod ymgeiswyr wedi cwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau neu gymhwyster lefel 5 cyfatebol mewn pwnc perthnasol. Bydd ceisiadau gan Beirianwyr Cynnal a Chadw Awyrennau cymwysedig EASA/CAA Rhan-66, gyda chategorïau trwydded priodol a phrofiad diwydiannol perthnasol, yn cael eu hystyried yn unigol, yn ogystal â cheisiadau eraill o natur gyfwerth.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*£9,790
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2026 Rhan-amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Medi 2027 Rhan-amser
- Chwefror 2027 Rhan-amser
- Chwefror 2027 Rhan-amser
- Medi 2027 Rhan-amser
- Chwefror 2027 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.